Yr Almaen dan-21 2-1 Cymru dan-21

  • Cyhoeddwyd
Lukas NmechaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Lukas Nmecha i sgorio gyda'i ymdrech gyntaf o'r smotyn, cyn iddo fethu â tharo'r targed gyda'i ail

Daeth ymgyrch ragbrofol tîm pêl-droed dan-21 Cymru ar gyfer Euro 2021 i ben gyda cholled, ond perfformiad addawol oddi cartref yn Yr Almaen nos Fawrth.

Aeth yr Almaenwyr ar y blaen wedi 17 munud, gyda Lukas Nmecha yn rhwydo o'r smotyn yn dilyn trosedd gan Harry Clifton yn y cwrt cosbi.

Funudau'n ddiweddarach roedd gan y tîm cartref gyfle arall o'r smotyn yn dilyn trosedd gan y golwr George Ratcliffe, ond y tro hwn aeth ergyd Nmecha heibio i'r postyn.

Gyda 25 munud ar y cloc llwyddodd Yr Almaen i ddyblu eu mantais, wrth i Jonathan Burkardt sgorio gydag ergyd bwerus o du mewn i'r cwrt cosbi.

Ond llwyddodd y Cymry ifanc i daro 'nôl cyn hanner amser, gydag ergyd Mark Harris yn llwyddo i ganfod cornel isa'r rhwyd.

Er y bu cyfleoedd i'r ddau dîm yn yr ail hanner, ni lwyddodd yr un o'r ddau i ganfod y rhwyd eto.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru'n gorffen yn y pedwerydd safle yn y grŵp o bum gwlad, tra bo'r Almaen wedi gorffen ar y brig.