Adran Dau: Casnewydd 1-0 Port Vale

  • Cyhoeddwyd
Kevin EllisonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Kevin Ellison hawliodd y fuddugoliaeth i'r Alltudion yn y chweched munud o amser am anafiadau.

Sgoriodd Kevin Ellison gôl ddramatig mewn amser ychwanegol wrth i Gasnewydd guro Port Vale i aros ar frig Adran Dau.

Fe darodd Elllison ar ôl i Port Vale fethu â chlirio cornel yn ystod y chweched munud o amser am anafiadau.

Mae'r Alltudion dri phwynt yn glir ar frig y tabl tra bod Port Vale yn nawfed ar ôl eu trydydd colled yn olynol.

Chwaraeodd y ddwy ochr yn gystadleuol yn ystod hanner cyntaf difyr, gyda Liam Shephard yn cael tri chyfle da i Gasnewydd, a Jamie Proctor yn methu dod o hyd i'r targed.

Cafodd Port Vale hefyd eu cyfleoedd gydag ergydion David Worrall a Tom Conlon yn cael eu hatal gan Nick Townsend.

Fe frwydrodd Casnewydd yn galed yn yr ail hanner gydag ymdrech gan Brandon Cooper yn mynd dros y bar o gic gornel Matt Dolan.

Fe newidiodd y gêm wedi 68 o funudau gyda Legge yn gweld cerdyn coch.

Peniodd Padraig Amond a Cooper yn llydan wrth i Gasnewydd bwyso am gôl, cyn i Ellison sicrhau buddugoliaeth hwyr i'r tîm cartref.