Adran Dau: Casnewydd 1-1 Walsall
- Cyhoeddwyd
Mae Casnewydd yn parhau ar frig Adran Dau wedi gêm gyfartal yn erbyn Walsall yn Rodney Parade.
Yr ymwelwyr wnaeth sgorio gôl gyntaf y gêm, wedi 21 o funudau, diolch i Elijah Adebayo. Tarodd y bêl gyda'i droed dde o ochor dde'r cwrt cosbi i waelod gornel chwith y rhwyd.
Ond fe darodd yr Alltudion yn ôl ddwy funud yn ddiweddarach, pan rwydodd Scott Twine.
Cysylltodd â phas Matthew Dolan o chwarae gosod gan ergydio gyda'i droed dde o du allan i'r cwrt cosbi i ganol y gôl.
Roedd yn gyfleoedd pellach i Twine a Dolan geisio sichrau'r fuddugolaeth i'r tîm cartref.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros ar y brig gyda 29, ac yn dal â thri phwynt o fantais dros Cheltenham yn yr ail safle, wedi eu gêm gyfartal hwythau nos Fawrth yn erbyn Cambridge United.