Adran Dau: Leyton Orient 2-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae Casnewydd yn parhau ar frig Adran Dau er gwaethaf colled o 2-1 oddi cartref yn Leyton Orient.
Dyma'r tro cyntaf i Gasnewydd golli mewn chwe gêm yn y gynghrair wrth i Orient frwydro yn ôl i hawlio buddugoliaeth.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi 20 munud o'r chwarae, diolch i gôl Jamie Proctor.
Ond fe rwydodd Danny Johnson i unioni'r sgôr cyn i foli James Brophy gipio'r triphwynt i'r tîm cartref.