Trysorlys yn ymestyn y cynllun ffyrlo tan ddiwedd Ebrill

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Menyw mewn caffiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Trysorlys wedi cyhoeddi y bydd y cynllun cefnogi swyddi i weithwyr y DU yn cael ei ymestyn am fis arall, tan ddiwedd mis Ebrill.

Mae'n golygu y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau gweithwyr sydd ar gyfnod ffyrlo.

Hefyd mae gan fusnesau sy'n wynebu trafferthion oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws tan ddiwedd Mawrth i ymgeisio am fenthyciadau.

Dywedodd y Canghellor, Rishi Sunak y bydd ymestyn y gefnogaeth yn rhoi sicrwydd i fusnesau trwy ddechrau'r flwyddyn newydd, a'u "galluogi i gynllunio o flaen llaw, beth bynnag yw trywydd y feirws".

Ychwanegodd bod y pecyn cymorth i fusnesau a gweithwyr "yn parhau i fod ymhlith y mwyaf hael ac effeithiol drwy'r byd, gan helpu adferiad ein heconomi a gwarchod bywoliaethau ar draws y wlad".

Bydd yn amlinellu cymal nesaf cynllun Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r pandemig a gwarchod swyddi yn y Gyllideb ar 3 Mawrth.

Bydd y llywodraeth yn parhau i dalu hyd at 80% o gyflogau gweithwyr mewn cysylltiad ag oriau na chafwyd eu gweithio tan ddiwedd Ebrill.

Bydd cyflogwyr ond yn talu cyflogau, cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol a chyfraniadau pensiwn mewn cysylltiad â'r oriau a gafodd eu gweithio, ynghyd â chyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol a phensiynau am oriau na weithiwyd.

Does dim newid o ran pwy sy'n gymwys i dderbyn y cymorth, dan y trefniadau sy'n berthnasol i holl wledydd y DU.