Ail Adran: Casnewydd 2-4 Oldham

  • Cyhoeddwyd
Alfie McCalmont yn sgorio gôlFfynhonnell y llun, Asiantaeth lluniau Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Daeth trydedd gôl Oldham diolch i Alfie McCalmont

Fe ildiodd Casnewydd ddwy gôl hwyr gan roi buddugoliaeth i Oldham Athletic yn yr ail gynghrair.

Aeth yr Alltudion ar y blaen ddwywaith diolch i ymdrech ffyrnig Scott Twine ac yna ergyd isel Scot Bennett.

Ond fe darodd Oldham yn ôl bob tro, yn gyntaf diolch Davis Keillor-Dunn, cyn i Conor McAleny daro'r bel o 30 llath i gefn y rhwyd.

Yna fe fethodd Padraig Amond gic gosb i Gasnewydd, cyn i goliau Alfie McCalmont a Zach Dearnley roi buddugoliaeth i Oldham.

Hon oedd colled gartref gyntaf Casnewydd o'r tymor ac er eu bod nhw yn parhau ar frig y gynghrair mae eu mantais wedi ei leihau i bwynt yn unig uwchben Forest Green Rovers.

Pynciau cysylltiedig