Adran Dau: Crawley 1-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Llwyddodd Casnewydd i aros ar frig Adran Dau er fod Crawley Town, oedd gyda 10 dyn ar ddiwedd y 90 munud wedi eu hatal rhag hawlio buddugoliaeth.

Rhoddodd Ryan Haynes Gasnewydd ar y blaen yn gynnar gydag ymdrech grefftus ar ôl gwaith da gan Scott Twine.

Ond ymladdodd Crawley yn ôl gan unioni'r sgôr pan lwyddodd Mickey Demetriou i anfon peniad heibio i'w golwr ei hun.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i'r tîm cartref pan anfonwyd Tarryn Allarakhia i ffwrdd am dacl ddi-hid ar Liam Shephard, ond ni allai Casnewydd ddod o hyd i'r gôl ychwanegol fyddai wedi sicrhau buddugoliaeth yn y pen draw.

Mae Casnewydd yn parhau ar frig yr adran gyda mantais o un pwynt er gwaethaf eu rhediad o bedair gêm heb fuddugoliaeth.