Gohirio gemau pêl-droed Caerdydd a Chasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae gemau pêl-droed Caerdydd a Chasnewydd wedi eu gohirio oherwydd y tywydd.
Yn dilyn cawodydd o eira, cafodd gêm Caerdydd oddi cartref yn Rotherham ei gohirio awr cyn y gic gyntaf "er lles chwaraewyr".
Roedd eira ar y cae a'r posibilrwydd o gawodydd pellach yn ddigon i'r dyfarnwr benderfynu na ddylai'r ornest yn y Bencampwriaeth ddechrau.
Cafodd gêm Casnewydd yn erbyn Southend yn Adran 2 ei hatal oherwydd bod y cae yn Rodney Parade wedi rhewi.
Dywedodd Casnewydd eu bod yn "siomedig", ond bod diogelwch chwaraewyr yn dod gyntaf.