Cleifion gofal dwys Glan Clwyd 'wedi dyblu ers y Nadolig'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwely gofal dwysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y cleifion gofal dwys yn Ysbyty Glan Clwyd wedi dyblu ers y Nadolig

Mae nifer y cleifion gofal dwys yn un o ysbytai'r gogledd wedi dyblu ers y Nadolig, yn ôl arbenigwr.

Dywedodd Dr Richard Pugh o Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan fod cynnydd mawr wedi bod yn nifer y marwolaethau oherwydd Covid-19, gyda 40% o'r rheiny sydd angen gofal dwys ddim yn goroesi'r haint.

Bellach mae mwy o gleifion mewn gofal critigol yng Nghymru nag ym mis Ebrill, pan oedd y don gyntaf o'r haint ar ei uchaf.

Ac er bod nifer yr achosion wedi gostwng ychydig ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd, mae'r niferoedd yn codi yn y gogledd.

'Achosion yn dal i ddod'

Dywed Dr Pugh, sydd hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Gofal Dwys Cymru, fod cleifion yn fwy sâl yn cyrraedd gofal dwys nag ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig.

"Nid oedd Cymru mewn sefyllfa gref ar ddechrau'r coronafeirws. O ran capasiti, rydym yn llawn, ac mae'r achosion yn dal i ddod," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Richard Pugh bod capasiti gofal dwys Cymru yn llawn

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru yng nghynhadledd y llywodraeth ddydd Mercher fod y sefyllfa yng Nghymru yn un ddifrifol iawn gyda "chynnydd sylweddol" mewn rhannau o'r gogledd.

Yn ôl Dr Frank Atherton mae bron i 2,800 o gleifion Covid-19 yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd - y nifer uchaf ers dechrau'r pandemig.

"Pe bai'r patrwm yn parhau, yn fuan iawn bydd nifer y cleifion Covid-19 ddwywaith yr hyn yr oedd pan oedd ar ei anterth yn ystod y don gyntaf yn Ebrill," meddai.

"Yn y gogledd, rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych."

Ychwanegodd ei fod yn poeni am gynnydd yn y niferoedd ymhlith y rhai sy'n 60 oed neu'n hŷn, gan fod "hyn yn aml yn arwain at sefyllfa lle mae mwy o bobl angen gofal ysbyty".

'Gofal critigol ar 140% o'i lefel arferol'

Dywedodd pennaeth y GIG yng Nghymru wrth y gynhadledd y bydd tua hanner cleifion coronafeirws yn yr ysbyty am fwy na phythefnos, a chwarter y cleifion am fwy na thair wythnos.

Yn ôl Dr Andrew Goodall mae hyn yn golygu bod gwelyau'n cael eu meddiannu am gyfnod hirach tra bod mwy o bobl yn cael eu derbyn i gael triniaeth bob dydd.

Ychwanegodd fod 140 o gleifion coronafeirws yn derbyn gofal critigol - "y nifer uchaf rydyn ni wedi'i weld yn ystod yr ail don".

"Mae unedau gofal dwys dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd. Mae ein gallu gofal critigol yn gweithredu ar bron i 140% o'i lefelau arferol," meddai.

"Gallwn ei ehangu ymhellach, ond mae hyn yn golygu bod hyn yn tarfu ar wasanaethau clinigol eraill."

'Cleifion iach yn eu 30au' angen gofal dwys

Yng Nglan Clwyd, mae hanner y cleifion gofal dwys yno oherwydd Covid-19, meddai Dr Pugh, ac mae'r rheiny'n cynnwys pobl ifanc oedd yn berffaith iach cyn hynny.

"Dwi wedi edrych ar ôl cleifion yn eu 30au a oedd yn iach cyn hynny, a phobl yn eu 40au a 50au sydd wedi ildio i'r feirws," meddai Dr Pugh

"Maen nhw'n wael iawn, mae hwn yn glefyd annifyr a dydy'r cleifion yma ddim yn gwella'n gyflym."

Ysbytai'n wynebu cyfnod anodd iawn

Roedd hi'n rhy gynnar i fesur effaith y Nadolig ar y GIG, ond rhybuddiodd fod ysbytai'n wynebu wythnosau a misoedd anodd, er gwaetha'r cyfnod clo a'r rhaglen frechu.

"Dwi'n meddwl bod golau ar ddiwedd y twnnel yn nhermau effaith y brechlyn, ond ar y gorau dwi'n meddwl ein bod ni'n wynebu dau fis anodd iawn," meddai.

"Rydym wedi cynllunio, wrth gwrs, i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau ond mae'r rhain yn amseroedd digynsail."

Tynnodd sylw at effaith emosiynol a chorfforol y pandemig ar staff, a gofynnodd i'r cyhoedd ddilyn y rheolau i leihau lledaeniad yr haint.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tua hanner cleifion coronafeirws yn yr ysbyty am fwy na phythefnos, a chwarter y cleifion am fwy na thair wythnos

"Ar draws Cymru gyfan dwi'n meddwl ein bod ni'n teimlo'n flinedig iawn," meddai Dr Pugh.

"Ond mae'n rhaid tynnu sylw at fy nghydweithwyr yn ne Cymru, sydd wedi cael eu taro galetaf - mae'r pwysau wedi bod yn mynd ymlaen ers wythnosau lawer. Maen nhw wir yn flinedig iawn, iawn.

"Ac rydym oll yn anffodus yn dal yn bryderus iawn am yr hyn sydd i ddod i ni. Mae'r teimlad o ofn am y misoedd nesaf yn pwyso'n drwm."

Ychwanegodd fod angen mwy o gydweithio rhwng safleoedd a byrddau iechyd, a bod cleifion wedi cael eu trosglwyddo o le i le er mwyn ceisio lleihau'r pwysau ar rai ardaloedd.

"Ond wrth gwrs mae pob ysbyty o dan bwysau, felly mae'n anodd dygymod â'r galw ychwanegol hyn. Ond rydym yn awyddus iawn i gael y gorau o'r adnoddau sydd gennym," meddai.