Casnewydd 1-1 Brighton (Brighton 4-3 ar giciau o'r smotyn)
- Cyhoeddwyd
Mae rhediad Casnewydd yng Nghwpan yr FA ar ben ar ôl colli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Brighton.
1-1 oedd hi ar ddiwedd y 90 munud - Solly March yn sgorio i Brighton yn y munudau olaf, cyn i Gasnewydd ddod yn gyfartal gyda symudiad olaf y gêm pan roddodd Adam Webster y bêl yn ei rwyd ei hun o groesiad Liam Shephard.
Doedd 'na ddim mwy o goliau yn ystod yr amser ychwanegol felly fe aeth y gêm i giciau o'r smotyn.
Mi gymerodd y ddau dîm saith cic yr un. Mi fethodd Scott Bennett gyda chic olaf Casnewydd, cyn i Adam Webster sgorio i Brighton i sicrhau eu lle nhw yn y bedwaredd rownd.
Bydd yr enwau yn dod allan o'r het ar gyfer y bedwaredd a'r bumed rownd nos Lun.