Adran Dau: Casnewydd 0-0 Salford

  • Cyhoeddwyd
Josh SheehanFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Fe wnaeth Casnewydd golli cyfle da i godi i frig yr Ail Adran ar ôl gêm gyfartal ddifflach yn erbyn Salford.

Roedd y tîm cartref lawr i ddeg dyn ar ôl awr pan gafodd Josh Sheehan gerdyn coch am dacl peryglus.

Eisoes roedd Casnewydd heb yr amddiffynnwr Ryan Haynes, gafodd anaf i'w ben yn yr hanner cyntaf

Golygai'r canlyniad fod Casnewydd yn ail yr Ail Adran, gyda Salford yn bumed.

Dywedodd eu rheolwr Michael Flynn: "Doedden ni ddim digon da yn yr hanner cyntaf, ar ôl y chwater cyntaf, fe wnaeth Salford gryfhau ond heb fethu creu."

Pynciau cysylltiedig