Y Tad a'r Mab

  • Cyhoeddwyd

Dyw teuluoedd gwleidyddol yn ddim byd newydd yng Nghymru. Fe gynrychiolodd Sir Watkin Williams-Wynn Sir Ddinbych yn y Senedd yn llythrennol am ganrifoedd. Nid yr un Sir Watkin, wrth reswm, ond rhyw Syr Watkin neu'i gilydd yn pasio'r ffagl o un genhedlaeth i'r nesaf.

Yn yr un modd roedd etholaeth Meirionydd yn cael ei phasio yn ôl ac ymlaen rhwng y Vaughans a'r Wynns, dau deulu oedd yn perthyn i'w gilydd.

Does dim un o ddeiliaid Wynnstay wedi tywyllu drysau Senedd Cymru eto ond mae 'na ambell i frenhinlin yn ymddangos o bryd i gilydd. Mae Huw Irranca-Davies, er enghraifft, yn ddisgynnydd i Ivor Davies oedd yn cynrychioli Gŵyr yn San Steffan. Roedd rhagflaenydd Huw yn Ogwr, Janice Gregory, yn ferch i Aelod Seneddol yr etholaeth, Syr Ray Powell.

Wrth i'r ymgeiswyr gael ei dewis ar gyfer etholiad eleni mae 'na ambell i linach arall yn ymddangos. Mae Rhys ab Owen sy'n sefyll dros Blaid Cymru yn fab i'r cyn Aelod Cynulliad, Owen John Thomas tra bod y Geidwadwraig Natasha Ashgar yn ferch i'r diweddar Mohammad.

Mae gan Rhys a Natasha siawns go dda o gyrraedd y Bae ac fe fyddai'r ddau ohonyn nhw yn gaffaeliaid i'r siambr. Does dim awgrym o gwbl eu bod wedi cael eu dewis o ganlyniad i'w tras deuluol.

Serch hynny, mae 'na gwestiwn yn codi, fi'n meddwl, ynghylch maint y pwll y mae pleidiau'n pysgota ynddo wrth ddewis ymgeiswyr. Dyw hi ddim yn ymddangos bod y rhwyd yn cael ei thaflu'n eang iawn. Mae'n fwy o fater o wialen ac un bachyn.

Yn ystod sesiwn nesaf Senedd Cymru fe fydd 'na adolygiad o drefniadau etholiadol y Senedd yn cael ei gynnal a, hyd yma, mae'r rhan fwyaf o'r trafod wedi bod ynghylch y system etholiadol ei hun. Fe fydd honna'n cael ei thrafod hyd syrffed dros y blynyddoedd nesaf!

Fe fyddai'n syniad ar yr un pryd i ystyried rhoi cymorth i'r pleidiau arbrofi gyda ffyrdd newydd o ddewis ymgeiswyr. Mae hynny wedi dechrau digwydd i raddau ond yr hen drefn o bleidlais gan yr aelodau sy'n cael ei defnyddio yn fwy aml na pheidio.

Yn y cyfamser, lle mae Syr Watkin, dywedwch?