Adran Dau: Oldham Athletic 3-2 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Joss LabadieFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Joss Labadie ei hel o'r maes am droseddu o fewn chwarter awr i ddechrau'r gêm

Roedd yna gam yn ôl i obeithion Casnewydd o ddychwelyd i frig Adran Dau wedi iddyn nhw gael eu curo oddi cartref gan Oldham Athletic.

Sgoriodd yr Alltudion gôl gyntaf y gêm yn gynnar, diolch i beniad Jack Scrimshaw, cyn i Davis Kellor-Dunn unioni'r sgôr.

Ond yna cafodd Joss Labadie gerdyn coch wedi 14 o funudau ar ôl gwrthdaro â Marcel Hilssner ac fe rwydodd Bobby Grant i roi'r tîm cartref ar y blaen.

Daeth Luke Gambin â'r gêm yn gyfartal ychydig funudau cyn yr egwyl, ond Oldham aeth â hi wedi i Mickey Demetriou roi'r bêl i'w rwyd ei hun.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn gostwng i drydydd safle'r adran gyda 40 o bwyntiau.