Bwydlen McDonald's Caernarfon 'angen bod yn ddwyieithog'
- Cyhoeddwyd
Mae McDonald's yn ail-gyflwyno cais am arwyddion digidol Saesneg yn unig ym mwyty'r cwmni yng Nghaernarfon, er eu bod wedi cael gorchymyn i'w gwneud yn ddwyieithog.
Fe wnaeth y cwmni gais cynllunio ym mis Mai 2020 i osod arwyddion newydd digidol ar gyfer y gwasanaeth archebu o'r car yn y bwyty.
Ond fe wnaeth swyddogion Cyngor Gwynedd wrthod y cais ar y sail bod angen iddyn nhw fod ar gael yn Gymraeg hefyd.
Dywedodd McDonald's fod gan y bwyty arwyddion dwyieithog eraill a pheiriannau archebu sy'n gallu cael eu defnyddio trwy gyfrwng y Gymraeg.
'Effaith amlwg ar gymeriad yr ardal'
Mae'r cwmni wedi gosod arwyddion digidol ar ei safleoedd ledled y DU er mwyn ceisio cyflymu'r broses o archebu o'r car, gyda'r sgriniau yn newid y fwydlen yn ddibynnol ar yr adeg o'r dydd.
Ond cafodd y cais i wneud hynny yng Nghaernarfon ei wrthod gan swyddogion y cyngor ym mis Tachwedd, cyn i'r cais gyrraedd y pwyllgor cynllunio.
Yn ystod yr ymgynghoriad fe wnaeth aelodau o Gyngor Tref Caernarfon ofyn i'r arwyddion fod yn ddwyieithog, fel yw'r achos ar gyfer gweddill y safle.
Yn ôl adroddiad gan swyddogion cynllunio Gwynedd, wedi i'r pryderon gael eu codi â McDonald's, dywedodd y cwmni nad oedd modd gwneud yr arwyddion yn ddwyieithog "oherwydd y lluniau sydd arnynt".
Dywedodd yr adroddiad: "Mae gan arwyddion effaith weledol amlwg ar gymeriad ardal, gan gynnwys ei gymeriad ieithyddol.
"Maen nhw hefyd yn un ffordd o hyrwyddo diwylliant unigryw yr ardal, sy'n arwyddocaol yn nhermau hunaniaeth gwahanol gymunedau a'r diwydiant twristiaeth."
Mae McDonald's wedi penderfynu ail-gyflwyno'r cais, gan bwysleisio bod arwyddion dwyieithog yn y maes parcio, y man talu a'r man casglu.
"Mae'r arwyddion newydd yn rhai digidol, sy'n dangos pa eitemau sydd ar werth er mwyn gwella'r ffordd mae'r gwasanaeth archebu o'r car yn gweithio, ac nid ydyn nhw'n cynnwys testun parhaol," meddai'r cwmni yn ei gais diweddaraf.
"O fewn y bwyty mae cyfleusterau i gwsmeriaid archebu trwy ddefnyddio nifer o wahanol ieithoedd ar y peiriannau, ac rydyn ni'n falch bod hyn wedi galluogi i aelodau'r cyhoedd archebu trwy'r Gymraeg."
Mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Gwynedd ystyried y cais newydd yn y misoedd nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2020