Caniatâd i gynllun dadleuol McDonald's a Costa Sanclêr
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun dadleuol i godi bwyty McDonald's a siop goffi Costa yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei gymeradwyo yn dilyn apêl gan y cwmni datblygu.
Roedd cais Draycott Developments and Investments i ddatblygu tir ar gyrion Sanclêr wedi'i wrthod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr ym mis Medi.
Fe wnaeth y datblygwyr apelio yn erbyn y penderfyniad, ac fe benderfynodd arolygydd annibynnol yr wythnos hon i gymeradwyo'r cynllun.
Mae'r cwmni'n dweud y bydd dros 80 o swyddi newydd yn cael eu creu o ganlyniad i godi'r bwytai, fydd ar agor ddydd a nos.
Y bwriad yw agor unedau ar gylchfan Sanclêr ar yr A40 - ffordd brysur, yn enwedig yn yr haf wrth i ymwelwyr deithio i Sir Benfro.
Cafodd y cais gwreiddiol ei wrthod ar y sail bod y tir ddim o fewn ffiniau Cynllun Datblygu Lleol y cyngor sir.
Yn dilyn ymweliad â'r safle, penderfynodd cynghorwyr wrthod y cais, gyda phob aelod o'r pwyllgor ond un yn pleidleisio yn erbyn y datblygiad.
Roedd dros 270 o bobl leol wedi ysgrifennu llythyrau at y cyngor yn gwrthwynebu'r cynllun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd19 Medi 2019