Adran Dau: Harrogate 2-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Gasnewydd adael Harrogate yn waglaw ddydd Sadwrn ar ôl colli o 2-1.
Roedd ergyd ddifflach Luke Gambin yn dilyn cic gornel wedi rhoi Casnewydd ar y blaen.
Ond daeth Josh March â'r sgôr yn gyfartal cyn i Aaron Martin benio'r tîm cartref ar y blaen gyda llai na hanner awr yn weddill.
Wedi 73 munud o'r chwarae, aeth pethau o ddrwg i waeth i'r ymwelwyr wedi i Liam Shepard gael ei ddanfon oddi ar y cae ar ôl tacl wael.
Mae'r Alltudion bellach yn y seithfed safle yn y gynghrair, er dim ond pum pwynt oddi ar y brig.