Moliannwn
- Cyhoeddwyd
Nawr llanciau rhoddwn glod, y mae'r brechlyn wedi dod, y gaeaf a'r oerni a aeth heibio...
Wel dim cweit eto efallai ond mae rhyw fath o linell terfyn wedi ymddangos ar y gorwel a chyn hir gobeithio daw'r coed i wisgo'u dail.
Mae'n bryd dechrau meddwl felly am ba fath o ymchwiliad y dylid cynnal ar ddiwedd hyn oll. Mae dros 100,000 o bobol wedi colli eu bywydau ac mae hawl gan eu teuluoedd i gael atebion tra bod angen i lywodraethau a chyrff cyhoeddus eraill allu ddysgu gwersi o'r hyn ddigwyddodd.
Y cwestiwn cyntaf yw ai un ymchwiliad sydd ei angen yntau pedwar?
Mae Mark Drakeford wedi awgrymu taw un ymchwiliad i'r Deyrnas Unedig y mae e'n ei ffafrio oherwydd y peryg amlwg y byddai ymchwiliadau ar wahân i'r pedair cenedl yn mynd dros yr un tir ac yn galw'r un tystion.
Mae 'na sylwedd i'r ddadl honno ond mae 'na berygl amlwg iawn hefyd na fyddai ymchwiliad pedair cenedl yn talu'r sylw priodol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a phenderfyniadau'r llywodraethau datganoledig.
Mae 'na ffyrdd o gwmpas hynny ac rwy'n amau mae model hybrid fydd yn cael ei mabwysiadu yn y diwedd. Pe bai'r ymchwiliad yn cael ei gynnal fel Comisiwn Brenhinol, er enghraifft, fe fyddai modd penodi comisiynwyr penodol i ymchwilio i ymddygiad llywodraethau Caerdydd, Caeredin a Belfast gan gyhoeddi eu casgliadau fel atodiadau i'r prif adroddiad.
Yn sicr mae 'na wersi i ddysgu gan ymchwiliadau eraill. Mae angen maes llafur a rhaglen waith penodol er mwyn osgoi'r hyn ddigwyddodd gydag ymchwiliad "Bloody Sunday wnaeth bara am ddeuddeg mlynedd cyn cyhoeddi ei gasgliadau.
Justice delayed is justice denied fel maen nhw'n dweud.
Yn achos ymchwiliad Tŵr Grenfell rhannwyd y gwaith yn ddau ddarn er mwyn gallu cyhoeddi naratif o'r hyn ddigwyddodd ac ymateb y gwasanaethau brys yn weddol o handi cyn symud ymlaen at gwestiynau ynghylch problemau pensaernïol y twr a'r rhaglen gynnal a chadw.
Mae modd hefyd gofyn i ymchwiliad gyhoeddi casgliadau ac argymhellion brys, rhywbeth o bwys mawr wrth drafod pandemig a allai esblygu ac ail-gydio.
Mae'r ffaith ei bod yn trafod hyn o gwbl yn arwydd o obaith ond mae'n bwysig cael y pethau yma'n iawn.
Mae tystiolaeth hanesyddol yn awgrymu nad yw cyfnodau o bandemig yn para yn y cof cyhoeddus yn yr un modd ac mae rhyfeloedd yn gwneud, fel enghraifft.
Efallai mai'r wers bwysicaf oll yw i beidio ag anghofio gwersi'r gorffennol.
Mae'r ddynolryw wedi gwybod am bwysigrwydd pethau fel cyfnodau clo a hunan ynysu yn ystod pandemig ers miloedd o flynyddoedd. Pam felly y bu cymaint o ddadlau yn eu cylch?