Y Blaid Lafur a'r Bedyddwyr Albanaidd
- Cyhoeddwyd
Mae'r tensiwn rhwng cadw eich hunan yn bur a bod mor groesawgar â phosib yn un sy'n wynebu eglwysi a phleidiau gwleidyddol fel ei gilydd.
Mae angen gosod rhyw fath o ffiniau ar ddaliadau eich aelodau ond os ydy'r gyffes ffydd yn rhy haearnaidd a di-ildio mae 'na beryg i'ch ffawd efelychu un y Bedyddwyr Albanaidd.
Enwad Cymreig a Chymraeg oedd y rheiny er gwaetha'r enw ac roeddynt yn enwog am eu hunplygrwydd a'u defosiwn i ddogma'r enwad gan ddangos y drws i aelodau am y pechod lleiaf.
Canlyniad hynny yn y diwedd oedd eu diflaniad ac mae beth i'w wneud â'u mynwentydd yn peri gofid i ambell i gyngor cymuned hyd heddiw.
Mae bod yn rhy bur yn broblem felly ond os ewch chi'n rhy bell i'r cyfeiriad arall mae'r holl bwynt yn dechrau diflannu.
Hynny yw, beth yw pwrpas eglwys neu blaid os ydy'r aelodau'n cael credu a dweud yn hyn a fynnant?
Gydag etholiadau'r Senedd ar y gorwel mae'n ymddangos bod Llafur a'r Ceidwadwyr fel ei gilydd yn dymuno cael eu gweld fel eglwysi llydan.
Go brin y byddai'r Torïaid wedi caniatáu enwebu ymgeiswyr oedd yn dilorni datganoli yn y dyddiau pan oedd Nick Bourne wrth y llyw.
Maen nhw wedi gwneud hynny y tro hwn. Yn yr un modd am y tro cyntaf erioed mae Llafur yn brwydro'r etholiad gyda llond dwrn o ymgeiswyr sy'n agored eu cefnogaeth i annibyniaeth.
Penderfyniad y Blaid Lafur i ganiatáu'r fath gabledd yw'r mwyaf diddorol yn fy marn i, er fy mod yn amau mae ffawd Llafurwyr yr Alban yn hytrach na'i Bedyddwyr sy'n bennaf gyfrifol!
Gallasai gosod teyrngarwch i'r DU fel rhyw fath o faen prawf i fod yn aelod neu'n ymgeisydd i'r blaid elyniaethu cenhedlaeth gyfan o actifyddion ifanc ac os ydy'r gefnogaeth i annibyniaeth yn parhau i gynyddu gallai hynny brofi'n farwol i'r blaid.
Gwell yw cadw'r peth oddi mewn i'r "teulu Llafur" yw'r ddadl.
Dyna yn union ddigwyddodd gyda datganoli wrth gwrs. Buddugoliaeth y datganolwyr oddi mewn i Lafur ynghyd â phwysau allanol o du Plaid Cymru wnaeth arwain at sefydlu'r Senedd yn ôl yn y ganrif ddiwethaf.
Dyn a ŵyr lle fydd y datblygiad diweddaraf yma'n arwain ond mae gen i un cwestiwn amlwg.
Ydy Keir Starmer yn gwybod eto?