Adran Dau: Casnewydd 0-1 Southend

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Casnewydd wedi colli'r cyfle i godi yn ôl i'r safleoedd dyrchafu yn Adran Dau yn dilyn colled siomedig yn erbyn y tîm ar waelod y tabl nos Fawrth.

Bu'n rhaid disgwyl 74 munud am unig gôl y gêm, ac i'r ymwelwyr aeth honno wrth i gic rydd Tom Clifford wyro heibio'r golwr Nick Townsend i gefn y rhwyd.

Roedd gan dîm Michael Flynn gyfle i godi yn ôl i'r safleoedd dyrchafu gyda buddugoliaeth yn erbyn Southend.

Mae'r canlyniad yn golygu eu bod yn aros yn y pumed safle yn y tabl, ond bwynt yn unig tu ôl i Cheltenham sy'n drydydd.