Adran Dau: Casnewydd 0-2 Forest Green Rovers
- Cyhoeddwyd
Collodd Casnewydd gyfle i godi yn nhabl Adran Dau ddydd Sul trwy golli yn erbyn Forest Green Rovers.
Sgoriodd y tîm cartref gôl yr un yn nau hanner y gêm - y gyntaf gan Josh Davison wedi 43 o funudau.
Ildiodd Nick Townsend gic gosb wedi 63 o funudau ac fe rwydodd cyn ymosodwr yr Alltudion, Jamille Matt o'r smotyn i ddyblu'r fantais.
Cafodd y ddau dîm drafferth cadw'r meddiant yn sgil cyflwr y cae, oedd dan haen o dywod. Bu'n rhaid gohirio'r gêm o ddydd Sadwrn i ddydd Sul i roi cyfle i'r maes wella yn dilyn tywydd garw a gêm y Dreigiau nos Wener.
Methodd Casnewydd â bygwth sgorio gydol yr ornest, ac wedi dechrau da i'r tymor maen nhw bellach wedi ennill ond un gêm o'r 13 diwethaf.
O ganlyniad, maen nhw'n aros yn seithfed safle'r tabl gyda 44 o bwyntiau tra bod Forest Green wedi cau'r bwlch ar y brig i un pwynt yn llai na Cambridge United.