Adran Dau: Walsall 0-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Joss LabadieFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Joss Labadie sgoriodd unig gôl y gêm i'r Alltudion

Mae Casnewydd wedi codi yn ôl i safleoedd y gemau ail gyfle yn Adran Dau yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn Walsall nos Fercher.

Roedd yr hanner cyntaf yn ddigon cyfartal, ond roedd yr ymwelwyr yn edrych yn fwy bygythiol gan orfodi golwr Walsall, Liam Roberts i wneud sawl arbediad.

Daeth unig gôl y gêm wedi 71 munud, gyda Joss Labadie yn rhwydo gyda'i ail ergyd yn dilyn croesiad isel i mewn i'r cwrt cosbi gan Ryan Haynes.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn codi i'r chweched safle yn y tabl - tri phwynt yn unig i ffwrdd o'r safleoedd dyrchafu awtomatig.