Adran Dau: Tranmere Rovers 1-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Wedi'r golled yn erbyn Tranmere, Casnewydd yn wythfed ac islaw y safleoedd ail gyfle
Colli wnaeth Casnewydd adref o gôl i ddim yn erbyn Tranmere Rovers nos Fawrth.
Roedd hon yn gêm anodd i'r Alltudion a Tranmere wrth i'r ddau dîm bwyso am le ym mrig y gynghrair.
Cafodd Tranmere y dechrau delfrydol gyda tharan o ergyd gan Liam Feeney o du allan i'r blwch cosbi ar ôl saith munud gan osod ei dîm ar y blaen.
Er i Gasnewydd gael ambell ymgais dda at y gôl, un i ddim oedd hi ar hanner amser.
Parhau felly wnaeth hi yn yr ail hanner er i Gasnewydd gael sawl cyfle i unioni'r sgôr.
Mae Casnewydd bellach yn wythfed ac islaw y safleoedd ail gyfle ac mae Tranmere yn aros yn bedwerydd.