Arolygon Annibyniaeth
- Cyhoeddwyd
Pa bethau ydych chi'n cysylltu â Dydd Gŵyl Dewi? Gwisgo lan yn yr ysgol fach efallai, cinio mawreddog neu lond bwced o gawl cennin ar ganol pandemig.
Mae gan bawb eu traddodiadau Gŵyl Dewi eu hun ond gallwn ychwanegu un arall at y rhestr eleni. Wythnos Gŵyl Dewi yw wythnos yr arolygon barn Cymreig.
Mae'r BBC wedi cyhoeddi arolwg barn blynyddol gan ICM ar Fawrth 1af ers degawdau lawer ond eleni fe ymunodd YouGov ar ran Wales Online a Savanta ComRes ar ran ITV â'r parti hefyd.
Mae canfyddiadau'r tri arolwg yn wahanol iawn i'w gilydd ynghylch faint o gefnogaeth sy 'na i annibyniaeth i Gymru. 14% sy'n cefnogi'r syniad yn ôl ICM, 33% yn ôl YouGov a 39% yn ôl Savanta ComRes.
Mae'r esboniad am yr ystod eang o ganlyniadau yn weddol syml ac yn deillio o natur y cwestiynau a ofynnwyd.
Mae'r cwestiwn a ddefnyddir gan ICM ar ein rhan ni yn cael ei alw'n "tracker". Hynny yw, mae'n gwestiwn sy'n cael ei holi'n rheolaidd gydag union yr un geiriad bob tro er mwyn gallu mesur sut mae'r farn gyhoeddus yn newid dros amser.
Mae'r cwestiwn arbennig yma yn cynnig ystod o ddewisiadau cyfansoddiadol i bobol gan gynnwys annibyniaeth, diddymu'r Senedd yn gyfan gwbl, cadw pethau fel mae nhw a chryfhau'r setliad presennol.
Dim ond dau ddewis oedd yn cael eu cynnig gan YouGov A Savanta ComRes ar y llaw arall. Roedd yn rhaid datgan o blaid neu yn erbyn annibyniaeth heb unrhyw opsiwn yn y tir canol. Yn anorfod felly roedd y gefnogaeth i annibyniaeth llawer yn uwch na chanfyddiad ICM yn enwedig yn achos Savanta ComRes.
Dyw'r arolygon ddim yn croesddweud ei gilydd felly. Mae ICM yn rhoi darlun cyflawn i ni o'r farn gyhoeddus fel y mae hi ac mae'r ddau gwmni arall yn awgrymu beth fyddai'n digwydd pe bai'r farn honna yn cael ei pholareiddio'n ddwy garfan.
Mae'n bosib bod y broses yna o bolareiddio wedi cychwyn yn barod. Yn ôl ICM mae'r gefnogaeth i annibyniaeth a'r gefnogaeth i ddiddymu'r senedd ill dau ar gynnydd a'r tir canol o dan ychydig bach o warchae.
Un peth sy'n sicr mae'r cwestiwn annibyniaeth yn gwestiwn byw iawn yn ein gwleidyddiaeth am y tro cyntaf ers y 1960au ac mae'n debyg o barhau felly yn ystod etholiad eleni.