Adran Dau: Casnewydd 2-1 Bradford

  • Cyhoeddwyd
Matt DolanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth cic o'r smotyn ar ddiwedd y gêm roi hwb i obeithion Casnewydd o sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf.

Golygai'r fuddugoliaeth fod Casnewydd yn codi i'r chweched safle.

Cafodd y gêm ei chwarae yng Nghaerdydd oherwydd bod Casnewydd yn anfodlon gyda chyflwr cae Rodney Parade, cartref clwb rygbi'r ddinas.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen gyda Andy Cook yn manteisio ar bas wan gan Priestley Farquharson.

Daeth Casnewydd yn haeddiannol gyfartal 13 munud cyn y diwedd gyda chic rydd bwerus Matt Dolan o 25 llath.

A Dolan oedd arwr Casnewydd yn y munud olaf o'r amser sy'n cael ei ganiatáu am anafiadau.

Sgoriodd Dolan o'r smotyn a'r ôl i'r dyfarnwr benderfynu fod yna lawiad yn y blwch cosbi.