Llywodraeth y DU i edrych ar uwchraddio'r M4 a'r A55
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi datgelu y byddant yn archwilio'r posibilrwydd o uwchraddio ffyrdd yr M4 yn y de a'r A55 yn y gogledd.
Mae unrhyw brosiectau priffyrdd wedi bod yn rhan o gyfrifoldebau'r llywodraeth ddatganoledig yng Nghaerdydd ers 1999.
Ond yn ôl Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, mae adolygiad yn awgrymu bod achos cryf dros greu rhwydwaith drafnidiaeth i'r DU gyfan.
Dywedodd Mr Shapps ei fod eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru i "drwsio" y ddwy briffordd, sydd wedi dioddef problemau tagfeydd traffig ers blynyddoedd.
Ar sail yr adolygiad, sy'n edrych ar nifer o brosiectau trafnidiaeth eraill, dywedodd y byddai cynllun £20m yn archwilio'r ddwy ffordd brysuraf - a'r rhai sy'n diodde'r mwyaf o dagfeydd - yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol mai mater i Gymru oedd ffordd liniaru'r M4, ac mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o geisio rhannu Cymru yn ogledd a de, gydag obsesiwn fod "pob ffordd yn arwain at Lundain".
'Nid yw hyn yn ymwneud â phwerau'
Gwadodd Mr Shapps fod Llywodraeth y DU eisiau cymryd rheolaeth dros adeiladu priffyrdd oddi wrth Lywodraeth Cymru, gan ychwanegu: "Nid yw hyn yn ymwneud â phwerau."
"Mae yna lawer o ardaloedd lle rydym yn gweithio'n agos gyda'n gilydd, isadeiledd rheilffyrdd er enghraifft, yr ydym eisoes yn cydweithio arno," meddai mewn cyfweliad gyda BBC Cymru.
Cafodd cynllun £1.6bn Ffordd Liniaru'r M4 ei ddileu gan Lywodraeth Cymru yn 2019 oherwydd y gost a'r effaith ar yr amgylchedd.
I adeiladu ffyrdd yng Nghymru byddai angen i Lywodraeth y DU newid y ddeddf a'r pwerau sydd wedi bod yn nwylo'r weinyddiaeth yng Nghaerdydd ers 1999 - onibai eu bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru.
Nid yw'n eglur o'r adolygiad sut fyddai rhwydwaith i'r DU gyfan yn gweithio.
Dywedodd Mr Shapps bod yr A55 yn dioddef tagfeydd difrifol "os ydych chi'n ceisio mynd i Fanceinion a Lerpwl a gogledd Cymru".
"Rydym wedi bod yn siarad hefo Llywodraeth Cymru drwy gydol yr amser, er enghraifft gyda Ken Skates yn Llywodraeth Cymru, sy'n croesawu hyn yn fras, ac rwyf yn meddwl bod pawb yn awyddus i wneud y cysylltiad yna rhwng Lloegr a Chymru weithio'n llawer mwy llyfn," meddai.
Ychwanegodd Mr Shapps bod yr adolygiad yn ddim mwy na "ffordd o ddweud 'gwych, beth am weithio gyda'n gilydd i drwsio'r [problemau]'."
Dywedodd ei fod wrth ei fodd yn cael dweud "bod Llywodraeth Cymru'n teimlo'r un fath amdano".
Ffordd liniaru oedd y dull mwyaf amlwg o ddelio gyda thagfeydd ar yr M4, meddai Mr Shapps.
Beth am drafnidiaeth gyhoeddus?
Dywed Llywodraeth y DU y byddai'n rhoi £20m i edrych ymhellach ar ystod eang o ddatblygiadau ar draws y DU a godwyd yn yr adolygiad.
Mae edrych ar welliannau i'r system reilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru yn rhan ohono, gan adeiladu ar syniadau gan Gomisiwn Burns Llywodraeth Cymru, a awgrymodd wario £800m ar drafnidiaeth gyhoeddus i ddelio gyda thagfeydd ar yr M4 o gwmpas Casnewydd.
Ond dywedodd Mr Shapps y byddai'n edrych yn ehangach ar y cynllun ffyrdd hefyd.
"Rwyf yn rhoi £20m i roi hwb i ddechrau'r gwaith ar rai o'r prosiectau hyn fel ein bod yn gallu cael at yr atebion addas fel beth sy'n digwydd i'r A55 yng ngogledd Cymru sy'n cysylltu â Lloegr?
"Mae beth fydd yn digwydd i'r M4 - os taw'r ffordd liniaru yw'r agwedd gywir neu os taw rhyw fath arall o adroddiad Burns sydd ei angen - yn gwestiwn y gallwn ei ateb yn ystod y broses.
"Nid yw hyn yn ymwneud â phwerau, mae o ynglŷn ag edrych ar y darlun cyfan a bwrw golwg yn ddigon eang er mwyn gweld tu hwnt i ffiniau Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, a sut mae cysylltu gyda'n gilydd fel teulu ehangach."
Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru am sylw.
Llesteirio economi Cymru
Dywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, mai bwriad yr adolygiad oedd rhannu Cymru i gylchoedd gogledd a de yn gysylltiedig â strategaethau datblygu oedd yn gogwyddo tuag at Loegr, ac yn llesteirio economi Cymru.
"Mae'n anodd credu yn 2021, nad oes gan Gymru fyth gysylltiad rheilffordd rhwng gogledd a de," meddai.
"Mae angen cysylltiadau da ar draws y ffin, wrth gwrs. Ond dylai unrhyw uchelgais i wella trafnidiaeth ar draws y ffin roi blaenoriaeth i wella cysylltiadau oddi mewn i Gymru yn y lle cyntaf, fel sylfaen ar gyfer gwella cysylltiadau ar draws y ffin."
Mae'r adolygiad hefyd yn cynnwys edrych ar y posibilrwydd o sefydlu gwasanaeth fferi rhwng Caergybi a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â'r posibilrwydd o adeiladu pont rhwng Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020