Adran Dau: Port Vale 2-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Priestley Farquharson o Gasnewydd yn ceisio rhedeg heibio Devante Rodney a Luke Joyce o Port ValeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Priestley Farquharson o Gasnewydd yn ceisio rhedeg heibio Devante Rodney a Luke Joyce o Port Vale

Collodd Casnewydd allan ar gyfle i gau'r bwlch rhyngddynt a'r tri thîm ar ben y gynghrair ar ôl colli i Port Vale.

Sgoriodd Tom Conlon yn hanner cyntaf y gêm, yn rhoi dechreuad perffaith i'r tîm cartre'.

Daeth Casnewydd â'r sgôr yn gyfartal deg munud mewn i'r ail hanner wrth i'r eilydd Jake Scrimshaw gael effaith yn syth ar ôl dod ymlaen.

Ond sicrhaodd gôl hwyr Devante Rodney'r fuddugoliaeth i Port Vale, yn symud nhw wyth pwynt yn glir o'r ddau dîm ar waelod y gynghrair.