Defnyddio tagiau GPS ar bobl sydd wedi dwyn a lladrata
- Cyhoeddwyd
Bydd lladron sydd wedi eu cyhuddo o ddwyn neu fyrgleriaeth cyson yn cael eu tagio gydag offer GPS mewn ymgais i'w hatal rhag aildroseddu fel rhan o gynllun newydd.
Mae Heddlu Gwent yn un o chwe llu ledled Cymru a Lloegr sy'n cymryd rhan yn y peilot.
Ar ôl treulio blwyddyn yn y carchar, bydd y rheiny sy'n troseddu'n gyson yn cael tag am hyd at 12 mis fel rhan o amodau eu trwyddedau.
Bydd yr heddlu'n gallu croesgyfeirio troseddau newydd gyda data'r GPS i weld a oedd troseddwyr yn yr ardal ar y pryd.
Mae mwy na hanner o'r rhai sydd wedi cael eu dedfrydu o ddwyn yn aildroseddu o fewn blwyddyn o gael eu rhyddhau o'r carchar.
Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder mae'r mathau hyn o droseddau yn costio £4.8m y flwyddyn i'r trethdalwr.
Yn ôl y data, yn 79% o achosion o ddwyn dyw'r heddlu yn methu adnabod unrhyw un mewn cysylltiad â'r drosedd - o'i gymharu â 23% ym mhob achos arall.
Dywedodd Kit Malthouse, y Gweinidog Troseddu a Phlismona yn San Steffan, tra bod y pandemig wedi gweld cyfraddau'r troseddau hyn yn gostwng wrth i fwy ohonom aros gartref, mae disgwyl i lefelau ddychwelyd i normal.
"Dyna pam mae datblygiadau arloesol fel tagio GPS mor hanfodol. Rydym am sicrhau ein bod yn helpu'r troseddwyr hynny i ddychwelyd i fywyd o fewn y gyfraith.
"Rydyn ni'n credu y bydd goruchwyliaeth 24 awr y dydd, drwy'r tag hwn ar eu ffêr, yn eu helpu i sylweddoli eu bod yn cael eu gwylio'n effeithiol, ac felly'n dewis rhywbeth arall i'w wneud, ar wahân i fynd yn ôl i'w trosedd flaenorol.
"Mae'n oruchwyliaeth drylwyr mewn ffordd nad ydym wedi'i gweld o'r blaen ac rydym yn credu y bydd yn cael effaith fawr."
Bydd y cynllun yn cael ei oruchwylio gan y gwasanaeth prawf, ac amcangyfrifir y bydd 250 o droseddwyr yn cael eu tagio yn y chwe mis cyntaf, ar draws y chwe heddlu dan sylw (Gwent, Avon & Somerset, Sir Caer, Sir Caerloyw, Glannau Humber a Gorllewin Canolbarth Lloegr).
Bydd y system yn cael ei gyflwyno i 13 o heddluoedd eraill ym mis Medi.
Mae tagiau 'sobrwydd' hefyd wedi cael eu treialu yng Nghymru ers mis Hydref.
Gellir rhoi gwaharddiadau alcohol i'r rhai sy'n cyflawni troseddau sy'n ymwneud ag alcohol, a'u gorfodi i wisgo tag sy'n monitro eu chwys bob 30 munud. Yna caiff y gwasanaeth prawf ei rybuddio os ydynt wedi cael diod.
Salon yn cael ei daro 12 gwaith
Yn y 30 mlynedd mae Diane Titmus wedi bod yn berchen ar salon gwallt yng Nghasnewydd, mae lladron wedi taro 12 o weithiau.
Roedd y digwyddiad diwethaf nôl ym mis Rhagfyr y llynedd, pan gymeron nhw tua £2,000 o stoc, gan gynnwys pob un o bump o sychwyr gwallt a sythwyr gwallt ei steilwyr, yn ogystal ag offer newydd sbon a chynhyrchion steilio drud.
"Roedden nhw newydd gymryd yr eitemau drutaf, roedden nhw'n gwybod beth roedden nhw'n ei wneud," meddai.
"Ar adegau eraill maen nhw wedi costio £500 i mi pan fyddan nhw'n torri ffenestr ac mae'n debyg eu bod wedi cymryd tua 30 ceiniog mewn ceiniogau oedd ar ôl yn y drôr.
"Roeddwn i'n ypset iawn, iawn. Ond hefyd yn flin. Dwi wedi gweithio'n galed iawn ar hyd fy oes i gael hyn, dim ond i rywun ddod i mewn a'i gymryd."
Esboniodd nad yw bellach yn gwneud hawliadau ar ei hyswiriant, oherwydd yr effaith y byddai'n ei chael ar y premiwm.
"Mae'n rhaid i ni ei ddileu fel colled. Rydym yn gweithio'n galed am wythnos i dalu'r person sy'n dwyn - dyna fel mae'n teimlo."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020