Pryder fod llysoedd yn 'gwegian' dan bwysau achosion

  • Cyhoeddwyd
Cardiff Crown Court
Disgrifiad o’r llun,

Mae 2,000 o achosion yn aros i gael eu clywed yn Llys Y Goron Caerdydd yn unig

Mae angen gweithredu ar frys er mwy lleihau'r nifer o achosion cyfreithiol sydd yn pentyrru heb eu clywed yn y llysoedd, yn ôl cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru.

Yn ôl aelodau o Gymdeithas y Gyfraith roedd y system gyfiawnder eisoes yn gwegian cyn Covid-19, ac mae'r pandemig wedi golygu heriau ychwanegol.

Yn ôl Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn-Arglwydd Brif Ustus Cymru, datganoli yw'r unig ffordd o ddod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer system sydd wedi gweld tan-fuddsoddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod wedi buddsoddi miliynau mewn adeiladau a thechnoleg i oresgyn y broblem.

Ar hyn o bryd mae miloedd o achosion yn aros i gael eu clywed yn llysoedd y goron a llysoedd ynadon yng Nghymru.

Dywed cyfreithwyr fod rhai achosion troseddol wedi bod yn aros blynyddoedd i gael eu clywed.

Mae'r angen nawr i aelodau'r rheithgor ymbellhau yn gymdeithasol wedi arafu'r broses ymhellach.

Rhwng 2013 a 2017 Arglwydd Thomas oedd y barnwr mwyaf blaenllaw yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd ei bod yn annhebygol iawn y byddai rhagor o arian yn dod i'r system gyfiawnder oddi wrth Llywodraeth y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Arglwydd Thomas: Am weld mwy o rymoedd yn cael eu datganoli

Tra bod Arglwydd Thomas yn credu bod y llysoedd yng Nghymru wedi rheoli'r sefyllfa yn dda, mae'n credu bydd nifer yr achosion sy'n aros i gael eu clywed yn cynyddu.

"Gyda mwy o arian ac adnoddau yn cael eu rhoi i'r heddlu, mae nifer yr achosion yn debygol o godi," meddai.

Yn ôl Scott Bowen, sy'n aelod o Gymdeithas y Gyfraith yng Nghymru, mae tua 2,000 o achosion yn aros i gael eu clywed yn Llys y Goron Caerdydd, a 2,000 arall yn Llys y Goron Casnewydd.

Dywedodd Mr Bowen, sy'n gweithio yng Nghasnewydd, fod toriad o 25% yng nghyllideb cyfiawnder dros gyfnod o 10 mlynedd wedi "taro pob agwedd o'r system" oedd eisoes "ar ei gliniau" cyn y pandemig.

'Rhaid cael buddsoddiad yn y system'

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cynnig fod llysoedd yn eistedd ar y Sadwrn er mwyn lleihau'r rhestrau aros.

Ond mae'r cynnig wedi ei feirniadu gan gyfreithwyr difinyddion a gan undeb y PCS sy'n cynrychioli staff y llysoedd.

"Mae yna rhai atebion, ond yn y pendraw mae'n rhaid cael buddsoddiad yn y system," meddai Mr Bowen.

"Mae'n rhaid i ni ei roi yn ôl ar ei draed, a cyn i hynny ddigwydd, dyw popeth arall ond yn cynnig ateb dros dro."

Disgrifiad o’r llun,

Mae mesurau ymbellhau cymdeithasol mewn grym yn y llysoedd

Tra bod Arglwydd Thomas yn cytuno fod y system gyfiawnder wedi cael ei tan gyllido, mae'n dweud fod y pandemig wedi rhoi cyfle i Gymru ddod o hyd i atebion gwahanol.

Ymhlith y newidiadau mae Arglwydd Thomas yn awgrymu mae dychwelyd i gynnal mwy o wrandawiadau lleol.

Dros y degawd ddiwethaf cafodd 22 o'r 36 llys ynadon yng Nghymru eu cau.

Yn ôl y cyn brif ustus byddai rhannu lleoliadau a defnyddio technoleg yn well, yn golygu gwell system gyfiawnder.

"Ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd, dyw'r system gyfiawnder ddim yn cael blaenoriaeth (o ran gwariant).

"Er bod yna, o bosib, symiau arian mawr yn cael eu haddo, mae'n rhaid cymryd y rheiny gyda phinsied o halen.

"Mae'n rhaid i chi edrych ar y system gyfiawnder yn ei chyfanrwydd, a sut i'w ariannu yn iawn?"

Llysoedd 'dros dro' y pandemig

Ym mis Tachwedd fe wnaeth arolwg gan yr Arglwydd Thomas o'r drefn gyfiawnder - arolwg gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru - alw am ddatganoli mwy o rymoedd.

"Mae pobl wedi cwestiynu a all Cymru wneud y pethau hyn, gan awgrymu 'dyw'r gallu ddim yna'.

"Ond mae argyfwng coronafeirws wedi dangos i'r gwrthwyneb.

"Mae llysoedd wedi bod yn gweithio yn effeithiol, ac mae'r heddlu hefyd wedi gweithio'n effeithiol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau'r rheithgor yn gallu gwylio sgrin wrth i dystiolaeth gael ei roi

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy i'r arian i'r heddlu nag sy'n wir yn Lloegr, a bod yna "resymau da iawn" i ddatganoli pwerau yn ymwneud â'r maes troseddu.

Dywedodd fod polisïau yn ymwneud â chyffuriau, iechyd meddwl, tai a diogelwch plant ynghyd a chyfiawnder troseddol yn aml yn gorgyffwrdd a'i gilydd. Ond eto, meddai, mae rhain oll heblaw troseddu wedi eu datganoli.

"Dyna'r unig ffordd o gael arian i'r system gyfiawnder," meddai.

"Dwi ddim yn credu daw o unman arall, oherwydd gymaint yw'r gofynion ar y pwrs cyhoeddus."

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rydym yn credu mai un awdurdodaeth gyfiawnder yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu cyfiawnder ar draws Cymru a Lloegr.

"Rydym wedi cadw'r system i redeg yn ystod y pandemig drwy flaenoriaethu achosion brys, cynyddu gwrandawiadau o bell yn gyflym, cyflwyno llysoedd 'Nightingale' dros dro a buddsoddi miliynau mewn adeiladau a thechnoleg."