Joe Ledley yn ymuno â Chlwb Pêl-droed Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Ledley ei bod yn "fraint" ymuno â'r clwb yn Adran Dau
Mae chwaraewr canol-cae Cymru, Joe Ledley wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Casnewydd yn Adran Dau ar gytundeb nes diwedd y tymor.
Cafodd Ledley, 34, ei gysylltu â Chasnewydd y llynedd cyn arwyddo cytundeb tymor byr gyda chlwb Newcastle Jets yn Awstralia.
Mae Ledley wedi ennill 77 o gapiau dros Gymru a bu'n rhan allweddol o'r ymgyrch i gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016.
Mae Casnewydd yn y pumed safle yn Adran Dau ac yn brwydro am ddyrchafiad gydag 11 gêm yn weddill yn y tymor.