Pennu dyddiad achos lofruddiaeth Doc Penfro
- Cyhoeddwyd

Cafodd corff Judith Rhead ei ganfod mewn eiddo yn Noc Penfro ar 20 Chwefror
Mae dyddiad wedi ei bennu ar gyfer achos llys dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw yn Sir Benfro.
Bydd yr achos yn erbyn Dale Morgan, sy'n 43 oed ac o Neyland, yn dechrau ar 4 Hydref.
Cafwyd hyd i Judith Rhead, oedd yn 68 oed, yn farw mewn eiddo yn Stryd y Farchnad, yn Noc Penfro ar 20 Chwefror.
Cafodd y diffynnydd ei ddychwelyd i'r ddalfa yn dilyn y gwrandawiad yn Llys Y Goron Abertawe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2021