Cyhuddo dyn, 43, o lofruddio menyw, 68, yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Cafodd corff Judith Rhead, 68, ei ganfod mewn eiddo ar Stryd y Farchnad yn Noc Penfro
Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth menyw yn Sir Benfro dros y penwythnos.
Cafodd corff Judith Rhead, 68, ei ganfod mewn eiddo ar Stryd y Farchnad yn Noc Penfro brynhawn Sadwrn, 20 Chwefror.
Cafodd dyn 43 oed ei arestio a'i gadw yn y ddalfa yn gynharach yn yr wythnos.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.