Adran Dau: Barrow 2-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Jamie Devitt pan oedd yn chwarae i Gasnewydd - ond ei gol a drechodd yr Alltudion
Daeth canlyniad siomedig arall i Gasnewydd yng ngogledd Lloegr wrth iddyn nhw golli yn Barrow.
Roedd tîm Mike Flynn wedi mynd ar y blaen wedi 24 munud diolch i gynnig Scott Bennett.
Yr ymwelwyr oedd yn mwynhau mwyafrif y meddiant, gan aros ar y blaen tan yr egwyl.
Ond yna wedi 56 munud fe sgoriodd cyn seren y Seintiau Newydd, Scott Quigley, i unioni'r sgor.
Yna gyda chwe munud yn weddill fe sgoriodd Jamie Devitt, gynt o Gasnewydd am gyfnod, i roi Barrow ar y blaen.
Aeth pethau o ddrwg i waeth pan welodd Mickey Demetriou gerdyn coch hwyr i Gasnewydd, sydd bellach yn seithfed yn y tabl.
Unig gysur y diwrnod i Gasnewydd yw bod Exeter City, sydd un safle yn is na nhw, hefyd wedi colli ac mae hynny'n cadw Casnewydd yn safleoedd y gemau ail-gyfle am y tro.