Cymru 0-3 Canada: Grainger yn colli ei gêm gyntaf

  • Cyhoeddwyd
Jess Fishlock a Shelina ZadorskyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Colli oedd hanes Merched Cymru yng ngêm gyntaf Gemma Grainger wrth y llyw, a hynny o 3-0 yn erbyn Canada.

Rhoddodd Grainger gap cyntaf i Ceri Holland yng nghanol y cae, wrth i Kayleigh Green ennill ei 50fed yng Nghaerdydd.

Ond yr ymwelwyr ddechreuodd orau, gan fethu cyfle da ar ôl 20 munud, ac yna mynd ar y blaen yn fuan wedyn drwy Deanne Rose.

Roedd Cymru'n cael trafferth creu cyfleoedd, ac ar ôl yr egwyl fe wnaeth yr eilydd Evelyn Viens ddyblu'r fantais.

Roedd chwaraewyr Cymru'n hawlio cic o'r smotyn yn fuan wedyn, ar ôl i Tash Harding gwympo i'r llawr yn y cwrt cosbi, ond anwybyddu'r bloeddio wnaeth y dyfarnwr.

Daeth gôl olaf yr ymwelwyr gan Jessie Fleming, wnaeth grymanu'r bel i gornel uchaf gôl Laura O'Sullivan o 25 llath.

Fe wnaeth Cymru orffen y gêm yn bositif wrth i Esther Morgan ennill ei chap cyntaf, ond roedd Canada'n rhy gryf mewn gwirionedd, wrth iddyn nhw sicrhau'r fuddugoliaeth yn gyfforddus.