Adran Dau: Casnewydd 0-0 Carlisle United
- Cyhoeddwyd

Ymgais Nicky Maynard yn cael ei arbed gan golwr Carlisle, Paul Farman
Llwyddodd Casnewydd i ddal eu tir mewn gêm ddi-sgôr galed yn erbyn Carlisle United yn Rodney Parade - canlyniad sy'n eu cadw yn safleoedd y gemau ail-gyfle
Fe rwydodd yr ymwelwyr ond ni wnaeth y gôl sefyll wedi dyfarniad bod Offrande Zanzala wedi troseddu yn erbyn golwr yr Alltudion, Nick Townsend wrth neidio am y bêll.
Nicky Maynard ac Aaron Lewis gafodd y cyfleoedd gorau i sgorio i Gasnewydd.
Roedd pwynt yn ddigon i godi tîm Mike Flynn o'r seithfed safle i'r chweched, gyda Carlisle hefyd yn codi o'r nawfed safle i'r degfed.