Minffordd: 'Anafiadau difrifol' i wyneb Dafydd Thomas

  • Cyhoeddwyd
Dafydd ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dafydd Thomas yn gyfarwyddwr ar gwmni Gwynedd Environmental Waste Services

Roedd dyn busnes o Wynedd wedi cael anafiadau difrifol i'w wyneb pan gafodd ei ddarganfod ar ei fferm, yn ôl crwner.

Clywodd cwest i farwolaeth Dafydd Price Thomas, oedd yn 65 oed, ei fod wedi ei ganfod ar y llawr ger ei gerbyd ym Minffordd, ger Penrhydeudraeth, ddiwedd Mawrth.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon bod patholegydd wedi nodi anadliad gwaed o ganlyniad i anafiadau difrifol i'r wyneb fel achos y farwolaeth.

Mae dyn wedi ymddangos mewn llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth Mr Thomas, oedd yn gyfarwyddwr cwmni gwastraff GEWS Ltd.

Dywedodd y crwner Katie Sutherland y byddai'n ystyried yr angen am gwest llawn ar ddiwedd yr achos llys.

Cafodd y cwest ei ohirio.

Pynciau cysylltiedig