Minffordd: Teyrnged teulu i ŵr busnes lleol 'rhyfeddol'

  • Cyhoeddwyd
Dafydd ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Dafydd Thomas yn ei ddisgrifio fel "gŵr, tad a thaid rhyfeddol"

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai gŵr busnes lleol oedd y dyn a gafodd ei ladd mewn digwyddiad yng Ngwynedd ddydd Iau.

Mae'r llu'n cynnal ymchwiliad llofruddiaeth yn achos Dafydd Thomas a fu farw ym Minffordd, ger Penrhyndeudraeth.

Dywed teulu Mr Thomas eu bod "yn ceisio dod i delerau gyda cholli gŵr, tad a thaid rhyfeddol".

Ychwanegodd eu teyrnged: "Mae teulu ehangach Dafydd hefyd wedi eu dryllio gan ei golli dan amgylchiadau mor drasig.

"Bydd yn cael ei gofio am ei ymroddiad i'w deulu, ei waith caled fel gŵr busnes lleol a chodi arian dros elusennau."

Roedd Mr Thomas yn gyfarwyddwr cwmni Gwynedd Environmental Waste Services Limited (GEWS).

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Dafydd Thomas y bydd yn cael ei gofio am ei waith caled ac am godi arian dros elusennau

Cadarnhaodd yr heddlu yn gynnar nos Iau eu bod yn cynnal ymchwiliad llofruddiaeth wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw yno ddechrau'r prynhawn.

Ychwanegodd eu datganiad bryd hynny: "Mae un dyn yn y ddalfa ar hyn o bryd, a does dim pryderon mwyach o ran diogelwch y cyhoedd."

Cydymdeimlodd y llu â'i deulu, sy'n cael cymorth swyddogion arbenigol.

Mae'r heddlu wedi apelio i'r cyhoedd am wybodaeth all helpu'r ymchwiliad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddlu'n dal yn bresennol yn Minffordd fore Gwener

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad toc wedi 13:30, a bod ambiwlans awyr a dau gerbyd wedi cael eu hanfon yno.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Gwasanaeth yr Ambiwlans Awyr gadarnhau eu bod wedi cael gwybod ar y ffordd yno nad oedd eu hangen.

Cynghorodd yr heddlu i'r cyhoedd "osgoi'r ardal hyd nes y clywir yn wahanol".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Heddlu Gogledd Cymru 🌈 #DiogeluCymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Heddlu Gogledd Cymru 🌈 #DiogeluCymru

Pynciau cysylltiedig