Adran Dau: Casnewydd 0-1 Caergrawnt
- Cyhoeddwyd

Chwaraewr rhyngwladol Cymru, Josh Sheehan ar Rodney Parade ddydd Sadwrn
Fe gymerodd Caergrawnt yr awenau ar frig Adran Dau gyda buddugoliaeth yn erbyn Casnewydd ar Rodney Parade.
Sgoriodd Declan Drysdale unig gôl y gêm, 11 munud o'r diwedd - ei gôl gyntaf ers cyrraedd ar fenthyg o Coventry ym mis Ionawr.
Mae Caergrawnt bellach ddau bwynt ar y blaen i Cheltenham gyda phedair gêm ar ôl.
Mae Casnewydd yn aros yn y safleoedd ail gyfle, ond wedi disgyn i'r seithfed safle.