'Covid yn her ac yn gyfle i steddfodau bach'
- Cyhoeddwyd
"O ystyried cyfnod diweddar Covid, mae'n siŵr y bydd technoleg yn gallu bod yn rhan o eisteddfodau bach y dyfodol."
Dyna farn Aled Wyn Phillips, Swyddog Datblygu newydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.
Mae Mr Phillips newydd ddechrau ar y swydd rhan-amser ac yn edrych ymlaen yn ystod yr wythnosau nesaf i siarad â threfnwyr eisteddfodau bach ar draws Cymru.
"Mae gofynion, amgylchiadau ac anghenion pawb yn hollol wahanol, ac rwy' angen gweld sut mae'r cyfnod diweddar wedi effeithio ar bawb a beth yw eu gobeithion am y dyfodol," meddai.
"Yn amlwg mae wedi bod yn bryder i nifer eu bod wedi gorfod canslo eu heisteddfodau ac mae Covid yn codi nifer o gwestiynau am y dyfodol.
"Falle bydd rhai yn gweld hi'n anodd cynnal 'steddfod eto, ma' 'da fi lot o waith cartref i 'neud yn ystod yr wythnosau nesaf yn holi pawb."
Dyw trefnu digwyddiadau ddim yn waith newydd i Aled Wyn Phillips sy'n enedigol o Ystradgynlais, wedi ei fagu yn Rhosllannerchrugog ond sydd wedi treulio y rhan fwyaf o'i fywyd yn Nghaerdydd.
Am bron i 30 mlynedd bu'n gweithio yn S4C fel pennaeth yr Adran Gyflwyno, ac yna bu'n arwain yr adran hyrwyddo.
Yn 2019 cafodd ei benodi yn Brif Swyddog Tafwyl ac mae'n credu mai'r ŵyl honno oedd un o'r rhai cyntaf yn y DU yn 2020 i ffrydio o leoliad yr ŵyl, sef Castell Caerdydd.
'Darlledu ar y we?'
"Fyddai ddim yn gorfodi dim technoleg ar neb wrth gwrs ond mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi cyflwyno heriau ond cyfleon newydd hefyd.
"Bu rhai eisteddfodau yn hynod lwyddiannus - gydag eisteddfod Capel y Groes ger Llanwnnen yng Ngheredigion yn denu cannoedd o gystadleuwyr rhithiol ac mae nifer eraill wedi bod yn trefnu cystadlaethau gwaith cartref rhithiol.
"Fe allai technoleg - neu ddarlledu ambell 'steddfod ar y we fod yn rhywbeth i'w ystyried ar gyfer y dyfodol.
"Yn yr un modd ag y mae nifer wedi bod yn cael blas ar oedfaon ar y we - mi allai pobl hefyd fod yn cael blas ar eisteddfodau o bell.
"Mi allai fod yn syniad darparu recordiad o'r uchafbwyntiau i gartrefi gofal efallai - mae'n bwysig bod yr hyn sy'n digwydd mewn eisteddfodau bach yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
"Ond dyw hi ddim yn fwriad gwthio dim ar bobl na chodi braw dim ond trio gweld beth sy'n bosib."
Ychwanegodd ei fod yn hoff o eisteddfota ond nad yw'n gystadleuwr o fri.
Mae'n cofio ennill cadair eisteddfod ysgol gynradd a bod yn aelod o'r grŵp pop buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd tra'n ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd.
Bellach mae ei ddoniau cerddorol wedi'u cyfyngu i Gerddorfa Ukulele Caerdydd.
"Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig i roi hyder i gystadleuwyr ac un o'r pethau ry'n am ei wneud tua diwedd y flwyddyn yw cynnal gweithdai mentora - mae'n bwysig hefyd cynnal y safon," ychwanegodd.
"Yr hyn dwi'n gobeithio fydd yn digwydd yw lot o waith cydweithio gyda mudiadau eraill.
"Mae'n bwysig annog dysgwyr, er enghraifft, i fod yn rhan o'r gweithgareddau ond er mwyn meithrin eu diddordeb hwy a diddordeb pobl ifanc rhaid cydweithio gyda phartneriaid perthnasol.
"Bydd rhaid trafod gydag ysgolion beth sydd yn y cwricwlwm a chael gwybod pa brosiectau sy'n digwydd fel bod yr eisteddfod leol yn gallu adlewyrchu hynny.
"Eisoes mae eisteddfodau lleol yn cydweithio â'r eisteddfodau cenedlaethol - yr eisteddfod leol, er enghraifft, yn ymarfer da ar gyfer eisteddfodau cylch yr Urdd.
"Yn aml mae llwyddiant mewn eisteddfodau lleol yn rhoi rhwydd hynt i gorau ac unigolion gystadlu ar lwyfan y Genedlaethol - yn sicr mae'n rhaid parhau gyda threfniant felly.
"Ond y peth cyntaf yn sicr yw dod i adnabod pawb a gweld beth yw'r dymuniadau a gofynion gwahanol bwyllgorau ar gyfer y dyfodol - ac ydw rwy'n edrych ymlaen i ddod i adnabod pawb ac at sicrhau dyfodol i eisteddfodau bach Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2020