Is Coed ac Uwch Coed
- Cyhoeddwyd
Fe wnes i addo ysgrifennu pwt ynghylch pob un o'r rhanbarthau etholiadol cyn diwrnod mawr y cyfri', ac am ddim rheswm arbennig rwyf am grwydro i dde ddwyrain Cymru y tro hwn.
Dwyrain De Cymru yw enw trwsgl swyddogol y rhanbarth etholiadol am ryw reswm y tu hwnt i ddirnadaeth dyn, ond yn y bôn mae'n cynnwys y cyfan o Went ynghyd â rhai o gymoedd Morgannwg.
Yn y senedd ddiwethaf roedd Llafur yn dal saith o'r wyth sedd etholaethol, y Ceidwadwr Nick Ramsay oedd yr un dyn bach ar ôl yn etholaeth Mynwy.
Yr etholaeth honno yw'r peth agosaf i gadarnle sydd gan y Torïaid yng Nghymru. Mae hi wedi bod yn las byth ers sefydlu'r Cynulliad ond mae penderfyniad Nick Ramsay i sefyll fel ymgeisydd annibynnol ar ôl cael ei ddad-ddewis gan ei blaid yn cymhlethu pethau y tro hwn.
Mae'n bosib, er yn annhebyg efallai, y gallai Mr Ramsay hollti'r bleidlais geidwadol a chreu agoriad i Lafur. Dyw'r Torïaid ddim yn colli llawer o gwsg ond mae Mynwy'n fwy diddorol nac arfer.
Yr etholaeth arall sydd o ddiddordeb yng Ngwent Is Coed yw Gorllewin Casnewydd, sedd sydd ar bapur yn un gymharol ymylol ond un lle mae'r Torïaid yn tueddu boddi wrth y lan.
Fe fydd y Ceidwadwyr yn gobeithio y bydd eu haddewid i atgyfodi'r cynllun ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yn gweithio o'u plaid y tro hwn.
Mae pump o etholaethau Dwyrain De Cymru yn cael eu cyfri'n rhan o ranbarth y cymoedd ond mae'r dyddiau pan oedd tueddiadau gwleidyddol o fewn y maes glo yn gymharol unffurf wedi hen ddiflannu.
Mae'r ddwy etholaeth yn y blaenau, sef Blaenau Gwent a Merthyr Tydfil a Rhymni, ymhlith y mwyaf difreintiedig ym Mhrydain tra bod rhannau deheuol etholaethau Caerffili, Islwyn a Thorfaen, sydd o fewn pellter cymudo hawdd i Gaerdydd a Chasnewydd, yn gymharol lewyrchus.
Ychwanegwch ddawn arbennig yr etholaethau yma i ymddwyn mewn modd cwbl annisgwyl megis Islwyn yn 1999 a Blaenau Gwent yn 2016, ac mae gyda chi sefyllfa lle mae popeth o fawr o ddim i ddaeargryn yn bosib.
Os oeddwn i'n gorfod dewis un o'r pum etholaeth fel yr un i wylio, Caerffili fyddai honna - sedd sydd, coeliwch neu beidio, wedi bod yn sedd darged i Blaid Cymru ers 1968!
Beth am y seddi rhanbarth felly? Wel os nad yw etholaethau'n newid dwylo fe fydd y cwota i ennill sedd ranbarth yn uchel ac fe fyddai'r Torïaid a Phlaid Cymru yn gobeithio ennill dwy'r un.
Os ydy un o'r pleidiau llai am ennill sedd mae'n debyg taw UKIP a Phlaid Diddymu'r Cynulliad sydd fwyaf tebygol o wneud gyda dau hen gymrawd, Neil Hamilton a Mark Reckless, yn cwffio yn erbyn ei gilydd am le yn y Senedd.