Creu swyddi wrth i atyniad newydd agor ym Mhwll y Tŵr

  • Cyhoeddwyd
Yr olygfa wrth deithio ar yr atyniad newydd yn hen lofa'r TŵrFfynhonnell y llun, Zip World
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa wrth deithio ar yr atyniad newydd yn hen lofa'r Tŵr

Wrth i atyniadau awyr agored gael ailagor yng Nghymru ddydd Llun, un a fydd yn agor ei ddrysau am y tro cyntaf yw canolfan newydd Zip World ar safle hen lofa'r Tŵr yn Hirwaun.

Mae gan y cwmni dri safle yn Eryri a dywed llefarydd ei fod wedi cyfrannu dros £250m at economi'r gogledd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Yn ôl Sean Taylor, sylfaenydd a phrif weithredwr y cwmni, mae hyn yn "garreg filltir enfawr i Zip World".

"Oherwydd ein safleoedd ym Mlaenau Ffestiniog a Bethesda rydym wedi ein cysylltu ag ardal y llechi. Nawr ry'n yn gysylltiedig â'r diwydiant glo," ychwanegodd.

Wrth i'r cais gael ei roi ger bron dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan ei bod yn "galonogol fod Zip World yn gweld cyfleoedd i ddenu ymwelwyr i'r ardal, gan greu swyddi lleol a buddion economaidd".

Ffynhonnell y llun, Zip World

Bydd amrywiol atyniadau ar y safle ac mae'r un sydd wedi ei leoli ar droed mynydd Y Rhigos yn gallu cyrraedd cyflymder o hyd at 70mya.

Ar y safle hefyd mae bwyty Cegin Glo - lle i 176 fwyta y tu mewn a 100 y tu allan.

Fe gaeodd Glofa'r Tŵr yn 2008 - 14 mlynedd wedi i'r glowyr brynu'r lofa. Ers hynny does fawr wedi digwydd ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Wayne Thomas yn un o'r cyfranddalwyr ym Mhwll y Tŵr

I un o gyn-lowyr y Tŵr, Wayne Thomas, mae'n rhyfeddol gweld y trawsnewidiad.

"O weithio dan y ddaear man hyn i weld y Zipworld heddi, maen ardderchog", meddai.

"Mae'n mynd i newid yr ardal, dwi ddim yn credu ni'n ystyried faint ar y funud, achos mewn pum mlynedd, deg mlynedd, byddwn i'n dishgwl nôl i 'weud dyma'r peth gore sy' wedi digwydd i'r ardal hyn mewn blynydde mawr."

Ffynhonnell y llun, Zip World
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y tŵr enwog yn rhan o'r atyniad newydd

Ychwanegodd Sean Taylor: "Gyrru o gwmpas y de yn 2017 roeddwn i yn chwilio am safle newydd a dyma ddod o hyd i le perffaith gyda golygfeydd godidog - ar y pryd doeddwn i ddim yn gwybod am yr hanes ac fe wnaeth hynny gyfoethogi'r holl beth.

"Bydd 95% o'n staff yn bobl leol. 'Dan ni'n hynod gyffrous ac o fynd i'r copa - mae'r golygfeydd yn wirioneddol wych."

Roedd y cais gwreiddiol yn nodi y byddai'r datblygiad yn creu wyth swydd llawn amser a 50 rhan amser pan y byddai'n gwbl weithredol.

Pynciau cysylltiedig