Adran Dau: Casnewydd 4-0 Scunthorpe
- Cyhoeddwyd

Llwyddodd Mickey Demetriou i sgorio dwy gôl i'r Alltudion nos Fawrth
Mae Casnewydd gam yn nes at sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle Adran Dau wedi iddyn nhw roi cweir i Scunthorpe yn Rodney Parade nos Fawrth.
Aeth yr Alltudion ar y blaen wedi hanner awr, wrth i amddiffynnwr Scunthorpe George Taft benio i'w rwyd ei hun o groesiad Padraig Amond.
Pum munud yn ddiweddarach fe wnaeth yr amddiffynnwr Mickey Demetriou ddyblu mantais y tîm cartref cyn i Lewis Collins ychwanegu trydedd gôl cyn hanner amser.
Llwyddodd Demetriou i sgorio ei ail yn y munudau olaf i gwblhau'r fuddugoliaeth i'r Cymry.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn codi i'r chweched safle yn y tabl am y tro, gyda dwy gêm yn weddill.