Ffrae Traeth Llanddona: Pentrefwyr yn symud cerrig
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion lleol wedi symud cerrig mawr yn ardal traeth poblogaidd yn Ynys Môn wedi i dirfeddianwyr "gymryd ar eu hunain" i'w gosod er mwyn atal pobl rhag parcio cerbydau gwersylla yno.
Hyd yn hyn mae bron i 5,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu gosod y meini oedd yn atal pobl rhag parcio ar Draeth Llanddona.
Ond mae tua 60 o drigolion wedi mynd gam ymhellach a symud y cerrig eu hunain, gan ddefnyddio tractorau a pheiriant cloddio.
Nid oedd Heddlu Gogledd Cymru'n dymuno gwneud sylw ynghylch yr achos.
Yn ôl tyst, roedd dros 60 o bobl ar y traeth ddydd Llun, ynghyd â "chwech neu saith o dractorau a pheiriant cloddio" a gododd y cerrig o'r llain barcio a'u "gollwng ar y traeth" ei hun.
Dywedodd y cynghorydd cymuned Myrddin Roberts: "Mae yna lot wedi gwylltio am hyn yn lleol a dwi'n meddwl bod pobl wedi cael digon ac wedi penderfynu gwneud rwbath amdano eu hunain.
"Dan ni jest yn gobeithio na ddaw'r cerrig yn ôl byth."
Mae'r ymateb i'r ddeiseb yn dangos bod atal mynediad i'r traeth "yn fater sy'n agos at galonna' lot o bobl," medd un o gynghorwyr sir yr ardal, Carwyn Jones.
"Mae pobl leol wedi bod yn rhydd i grwydro'r traeth yma ers canrifoedd a rhaid i ni neud popeth i neud yn siŵr bod mynediad lleol yn parhau, ac i warchod a rheoli'r traeth yn effeithiol yn y dyfodol."
Mae Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Cymuned Llanddona wedi cael cais i drafod gyda thirfeddianwyr lleol, er nad yw'n gwbl glir pwy sy'n berchen ar y tir dan sylw, yn ôl y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi dweud eu bod yn ymwybodol o bryderon bod nifer fawr o faniau gwersylla a chartrefi modur yn parcio ger y traeth.
Dywedodd llefarydd nad yw'n bosib i'w awdurdod "gymryd unrhyw gamau gorfodaeth neu weithredu unrhyw fesurau i atal, rheoli neu annog defnydd" o'r tir dan sylw gan nad nhw sy'n berchen arno.
Ychwanegodd bod maes parcio cyfagos wedi parhau ar agor, a'u bod yn rhan o drafodaethau gyda'r cyngor cymuned a thirfeddianwyr lleol i geisio dod i gytundeb mewn ymateb i bryderon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2021
- Cyhoeddwyd29 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020