Sut mae ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol?
- Cyhoeddwyd
Mae angen "dadl" genedlaethol ar Gymru i benderfynu sut i ariannu dyfodol gofal cymdeithasol, yn ôl pennaeth elusen fwyaf y wlad i bobl hŷn.
Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC, dywedodd prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, fod diwygio'r system gofal cymdeithasol ar frys yn hanfodol i atal pobl rhag mynd heb gefnogaeth.
Mae gofal cymdeithasol yn fater datganoledig, ond mae llywodraeth Cymru wedi dweud o'r blaen y byddai'n well ganddi weld dull gweithredu ledled y DU.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai cyhoeddiadau ar ofal cymdeithasol yn ystod y misoedd nesaf.
Er ei fod yn bwnc sydd wedi cael ei ddatganoli, dywedodd ei fod yn bwriadu gweithio ar ddull pedair gwlad.
"Os yw hwn yn bwnc y bydd llywodraeth y DU yn parhau i'w ohirio, yna fe ddaw'r pwynt pan fydd yn rhaid i ni wneud ein penderfyniadau ein hunain," meddai.
Addawodd Llafur Cymru yn ei maniffesto ar gyfer etholiad Senedd y mis hwn y byddai'n "ymgynghori ar ddatrysiad posib yng Nghymru yn unig", pe na bai llywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion o fewn y senedd bresennol.
Dim ond cyfeirio at ddiwygio gofal cymdeithasol y gwnaeth Araith y Frenhines yr wythnos diwethaf, ond mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi dweud y byddai cynlluniau ar y gweill "o fewn misoedd".
Dywedodd Ms Lloyd, er bod yr ymrwymiad i'w groesawu, mae angen gweithredu i ariannu'r system yn iawn - a thrafodaeth ar sut i'w hariannu - nawr.
"Rydyn ni'n gwybod bod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio, rydyn ni'n gwybod bod yna bobl sydd angen gofal allan yna nad ydyn nhw'n ei dderbyn ar hyn o bryd", meddai.
"Mae angen mwy o arian arnom yn y system.
"Mae yna lawer o ffyrdd o wneud hynny a chredaf mai'r hyn sydd ei angen arnom yw dadl fawr yng Nghymru ynglŷn â'r ffordd orau i ni wneud hynny'n deg, yn dryloyw ac i ddiwallu anghenion pob un ohonom.
"Rydyn ni'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu cyn gynted ag y gallan nhw".
Pwy sy'n talu beth?
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o ddiwygiadau i ofal cymdeithasol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae wedi dweud bod datrysiad pellach i gyllid yn flaenoriaeth.
Yng Nghymru, mae'r swm mae rhywun yn gorfod ei dalu'n breifat am ofal yn uchafswm o £100 yr wythnos, tra yng Lloegr does dim uchafswm i'w gael.
Mae gan dderbynwyr gofal domestig yng Nghymru sydd â chynilon neu asedau gwerth hyd at £24,000, neu'r rheini mewn gofal preswyl gyda hyd at £50,000, hawl i ofal yn rhad ac am ddim.
Yn Lloegr, mae'n ofynnol i'r rheini sydd â mwy na £14,250 gyfrannu.
Wrth siarad cyn yr etholiad, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod gan Lywodraeth Cymru ei chynllun ei hun yn "barod i fynd" ar ofal cymdeithasol, ond ychwanegodd fod integreiddio'r system fudd-daliadau yn broblemus.
Dywedodd wrth raglen Politics Wales na fyddai'n rhoi "amserlen mympwyol" o ran pa mor hir yr oedd yn barod i aros i lywodraeth y DU weithredu.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi addo o'r blaen sicrhau bod gweithwyr gofal yng Nghymru yn derbyn y Cyflog Byw, sef £9.50 yr awr ar hyn o bryd, erbyn diwedd tymor y Senedd hon.
O ble ddaw'r arian?
Dywed Sion Jones, economegydd sydd wedi ymchwilio i opsiynau cyllido gofal cymdeithasol ar gyfer Llywodraeth Cymru, fod diwygio yn ymarferol, ond yn gostus.
"Rwy'n credu ei bod yn sicr yn ymarferol dechrau gwneud diwygiadau", meddai.
"Yn absenoldeb mwy o arian yn dod trwy Fformiwla Barnett i Gymru, eu prif opsiynau yw newid gwariant o rannau eraill o gyllideb Cymru, sy'n sicr yn bosibl, ond anodd.
"Efallai y byddai'n eithaf tebygol, pe bai newid mewn gwariant o rywle arall, y gallai fod angen iddo ddod o'r gwasanaeth iechyd.
"Rydyn ni'n gwybod bod pwysau bob amser am fwy o wariant yn y sector iechyd ac ar hyn o bryd mae pwysau i dalu mwy i weithwyr iechyd, yn ogystal â gweithwyr gofal.
"Opsiwn arall fyddai codi refeniw treth cyffredinol trwy gynnydd yn Nhreth Incwm Cymru, sy'n bosibl, ond yn amlwg mae ganddo anawsterau gwleidyddol.
"Y trydydd opsiwn yw cyflwyno rhyw fath o dreth neu ardoll benodol, a fyddai'n codi arian yn benodol ar gyfer gwasanaethau gofal.
"Maen nhw i gyd yn ymarferol mewn egwyddor, ac maen nhw i gyd yn anodd o safbwynt gwleidyddol."
Mae rhaglen Politics Wales i'w gweld ar BBC One Wales am 10:00 ar ddydd Sul ac ar BBC iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2021