Cynllun sy'n darparu gofal cartref mewn ardaloedd gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae darparu gofal yn eu cartrefi i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd gwledig mwyaf anghysbell yn gallu bod yn heriol iawn.
Dyw cwmnïau gofal ddim wastad yn gallu cyrraedd yr ardaloedd hynny, yn enwedig os yw'n golygu gorfod treulio mwy o amser yn y car nag yng nghartre'r cleient yn rhoi'r gofal.
Felly mae Cyngor Powys wedi dechrau gweithredu dull newydd o ddarparu gofal yn yr ardaloedd mwyaf gwledig.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae 20 o bobl wedi dechrau gweithio fel gofalwyr hunangyflogedig er mwyn gofalu am bobl sy'n byw yn agos atyn nhw. Mae'r gofalwyr - neu 'micro-fusnesau' - yn cael eu cefnogi gan arweinydd prosiect sy'n cael ei alw'n 'gatalydd cymunedol'.
Gofal lleol i bobl leol
Y catalydd ym Mhowys yw Heather Maling, sydd wedi gweld y trafferthion y mae rhai pobl yn eu cael i dderbyn gofal mewn ffordd fwy traddodiadol.
"Dechreuais allan fel physiocymunedol ym Mhowys a gwelais sut roedd pobl yn ei chael yn anodd iawn dod o hyd i ofal a chefnogaeth.
"Os ydych chi'n rhedeg sefydliad mwy, dyw hi ddim bob amser yn gost-effeithiol cael pobl i deithio i'r ardaloedd gwledig. Gofal lleol i bobl leol yw'r ffordd ymlaen i Bowys a chymunedau gwledig eraill."
Mae rhai o'r cleientiaid yn derbyn Taliadau Uniongyrchol i ariannu eu hanghenion gofal. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw.
Dywedodd Heather: "Gall pobl ddewis cael eu cefnogaeth mewn llawer iawn o amser ar yr un pryd, a pheidio cael cefnogaeth drannoeth. Mae i fyny i'r cleientiaid mewn gwirionedd. Byddai'n anodd iawn gyda sefydliad mwy i ddarparu'r lefel honno o hyblygrwydd."
Un o'r gofalwyr hunan-gyflogedig ym Mhowys yw Emma Launder o Lanerfyl sy'n gofalu am saith cleient yn ei hardal leol. Mae hi hefyd yn ffermio ac yn dweud ei bod hi'n mwynhau cydbwyso ei dwy swydd.
"Rwy'n codi'n gynnar, yn mynd i'r gwely yn hwyr," meddai. "Rwy'n gweithio'n galed iawn ond rwy'n mwynhau.
"Dw i wrth fy modd yn ffermio, a dw i wrth fy modd yn cefnogi pobl. Felly dwi'n teimlo fy mod i'n cael y gorau o bob agwedd ar fy mywyd mewn gwirionedd."
Roedd Emma yn arfer gweithio i dim nyrsio cymunedol, ond does dim rhaid cael profiad blaenorol ym maes iechyd a gofal er mwyn bod yn rhan o'r rhaglen catalydd cymunedol.
"Mae llwyth o wahanol fathau o ofal. Os nad ydych erioed wedi gwneud unrhyw ofal personol neu ofal diwedd oes, mae 'na feysydd eraill - mae angen help ar bobl i siopa, mynd i'r ysbyty a weithiau dim ond cefnogaeth gyffredinol neu rywun i siarad â nhw."
Bellach mae 20 o ofalwyr hunangyflogedig ar draws Powys yn gweithio o fewn y cynllun catalydd cymunedol. Maen nhw'n gofalu am oddeutu 50 o gleientiaid - sydd wedi methu cael gofal fel arall, yn ôl Myfanwy Alexander, sy'n gyfrifol am Ofal i Oedolion ar Gabinet y Cyngor.
"Fe wnaethon ni dargedu'r prosiect hwn yn y lle cyntaf i ardaloedd ar hyd y ffin lle cawsom broblemau difrifol iawn yn dod o hyd i unrhyw ofalwyr o gwbl. A'r hyn wnaethon ni weld oedd ei fod wedi llwyddo yn y lleoedd hynny, yn rhai o'r ardaloedd a oedd fwyaf anodd eu cyrraedd.
"Daearyddiaeth yw un o'n heriau mwyaf. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw dod o hyd i ffyrdd o leihau'r milltiroedd y mae ein gofalwyr yn eu teithio a hefyd darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth rywun efallai'n agosach at adref, yn emosiynol, yn ogystal ac yn ddaearyddol."
Mae rhaglenni Catalydd Cymunedol wedi bod yn gweithredu yn Lloegr ers degawd ond maent yn gymharol newydd i rai rhannau o Gymru.
'Wedi gwneud gwahaniaeth mawr'
Yn ogystal â'r prosiect ym Mhowys, mae cynllun newydd yn Wrecsam ac yn Sir Benfro mae 11 o feicro-fusnesau yn cefnogi 40 o bobl.
Mae Anona Gray - sy'n helpu i edrych ar ôl ei chefnder Grace yn Solfach, Sir Benfro - yn gweithio ochr yn ochr â gofalwyr meicro-fusnes. Dywedodd Anona na fyddai Grace - a dreuliodd fisoedd yn yr ysbyty ar ôl cael strôc - wedi gallu dychwelyd adref heb y gofal y mae'n ei dderbyn trwy'r cynllun.
"Pe na baem wedi cael yr help a gawsom, byddai wedi mynd i mewn i gartref, a doedd hi wir ddim eisiau gwneud hynny. Mae Grace wrth ei bodd bod adref. Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth - mae ei chof wedi gwella, ac yn ei hysbryd mae'n hapus ac yn llawen ac yn siaradus, felly mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr."
Yn ôl Heather Maling, Catalydd Cymunedol Powys, mae hi'n edrych i helpu mwy o bobl i sefydlu eu hunain fel 'micro-fusnesau' i ddarparu gofal.
Dywedodd mai'r nod yw "cael micro-fusnesau ym mhob twll a chornel o Bowys. Yn sicr mae llawer mwy o waith i'w wneud, ac mae prosiectau eraill yng Nghymru yn cael eu trafod oherwydd mae'r ystadegau yn dangos fod y boblogaeth yn heneiddio a bod yr angen am ofal a chefnogaeth yn mynd i dyfu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019