Nifer preswylwyr cartrefi gofal wedi gostwng dros 20%

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwraig oedrannus yn eistedd ar gadair mewn cartref gofalFfynhonnell y llun, SPL

Mae perchennog cartref gofal yn dweud ei bod yn ceisio cadw i fynd yn ariannol yn dilyn gostyngiad sylweddol yn nifer preswylwyr y cartref yn ystod y pandemig.

Yn ôl ymchwil rhaglen Wales Live, mae nifer preswylwyr wedi gostwng fwy na 20% mewn rhai rhannau o Gymru o'i gymharu â Chwefror 2020.

Dywed Lakshmy Pengelly, perchennog cartref yn Llanelli, ei bod yn dibynnu ar gynilon, sy'n "prinhau".

Bydd cronfa caledi'n parhau am chwe mis yn rhagor, medd Llywodraeth Cymru.

Mae Fforwm Gofal Cymru, sy'n cynrychioli perchnogion cartrefi gofal, yn rhybuddio bod bygythiad i holl seilwaith gofal cymdeithasol Cymru oni bai bod y gefnogaeth yna'n parhau.

Ar sail ystadegau gan 14 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae nifer y llefydd mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion sydd wedi'u llenwi wedi gostwng 13% o 14,451 i 12,605.

Roedd y gostyngiadau mwyaf yn siroedd Blaenau Gwent (26%), Pen-y-bont ar Ogwr (21%) a Rhondda Cynon Taf (21%).

Mae'r data'n cynnwys pob cartref preswyl a chartrefi nyrsio ar gyfer oedolion a phobl oedrannus.

'Gweddïo bydd popeth drosodd yn fuan'

Ffynhonnell y llun, Lakshmy Pengelly
Disgrifiad o’r llun,

Mae arian wrth gefn yn prinhau, medd Lakshmy Pengelly, sy'n brwydro i gadw ei chartref gofal ar agor

Mrs Pengelly yw perchennog cartref gofal Ashley Court yn Llanelli.

Dywedodd wrth Wales Live eu bod yn rhydd o'r feirws tan yr wythnos cyn Nadolig, ychydig cyn roedd disgwyl iddyn nhw dderbyn brechlynnau.

Cafodd 24 o breswylwyr eu heintio a bu farw saith. Roedd "yn gyfnod mor anodd" medd Mrs Pengelly i'r preswylwyr, eu teuluoedd a'r staff. Erbyn hyn mae hi'n poeni am ddyfodol y cartref.

"Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn gartref sydd wastad yn llawn," meddai. "Yr isaf inni weld erioed oedd tua 80% yn llawn.

"Fel arfer, gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal statws 95% yn llawn. Eleni rydym ychydig dan 60% ar y foment."

"Fel busnes rydym wastad wedi neilltuo arian rhag ofn... ond mae hwnnw'n dechrau rhedeg allan. Rydyn ni wedi dal ati am bron flwyddyn nawr ac rwy'n meddwl na allwn ni wneud hynny mwyach.

"Rwy'n gweddïo bydd popeth drosodd yn fuan oherwydd ar y funud rydym yn ceisio cadw ein pennau uwchben y dŵr."

Mae hi'n gobeithio y bydd lefel y galw'n cynyddu eto wrth i fwy o bobl gael eu brechu "oherwydd bydd pobl o hyd angen cartrefi gofal.

"Mae yna ddiffyg hyder ar y funud o ran rhoi perthnasau mewn cartrefi gofal oherwydd y ffordd y lledodd Covid trwy gartrefi gofal.

"Ond hefyd mae pobl i ffwrdd o'r gwaith felly efallai eu bod yn gallu gofalu am rieni, neiniau a theidiau. Ond unwaith y mae cymdeithas yn mynd yn ôl i'r arfer a phawb yn ôl yn y gwaith, maen nhw'n mynd i orfod dechrau dibynnu eto ar gartrefi gofal.

"Ond yn anffodus, gallwn ni ddim darogan pa mor hir ry'n ni am fod yn y sefyllfa yma ac ry'n ni'n ceisio cadw i fynd nes ddaw petha' yn ôl i'r arfer."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i'r gefnogaeth ariannol barhau, medd Mary Wimbury, i osgoi "gwir fygythiad" i'r sector

Hyd at 18 Chwefror, cofnodwyd 1,604 o farwolaethau Covid-19 mewn cartrefi gofal, sef 21.7% o gyfanswm y marwolaethau coronafeirws yng Nghymru.

Yn ôl ffigyrau Arolygiaeth Gofal Cymru, bu 34% yn fwy o farwolaethau mewn cartrefi gofal ers Mawrth 2020 nag yn y cyfnod cyfatebol flwyddyn ynghynt.

Dywed Mary Wimbury o Fforwm Gofal Cymru bod perchnogion cartrefi gofal yn wynebu "dau fath o anlwc, sef costau uwch ac incwm sy'n gostwng yn aruthrol."

Mae'n galw am fanylion estyniad i gronfa caledi Llywodraeth Cymru "gynted â phosib".

"Mae'n gwbl hanfodol i'r gronfa caledi barhau os rydym am gadw'r sector yn gynaliadwy mewn unrhyw fodd oherwydd fyddan ni heb weld diwedd y pandemig erbyn diwedd Mawrth," meddai.

"Os yw nifer preswylwyr yn gostwng i 85% neu is, byddai holl seilwaith gofal cymdeithasol yng Nghymru dan wir fygythiad heb y gefnogaeth hollbwysig yma."

'Cydnabod pwysau ariannol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn ddiolchgar am waith caled ac ymroddiad" darparwyr gofal cymdeithasol gydol y pandemig, ac yn "cydnabod bod pwysau ariannol ychwanegol" arnynt.

Mae'r Gronfa Caledi, meddai, wedi dosbarthu mwy na £88m hyd yma, ac yn cael ei hymestyn tan ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Hefyd mae cyllideb terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 yn cadarnhau parhad y gefnogaeth yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol newydd at gostau sy'n deillio o'r pandemig.

Ychwanegodd: "Rydym yn parhau i gydweithio gyda'r sector i benderfynu sut i ddefnyddio'r adnodd yna yn fwyaf effeithiol."

Mae'r Gyllideb yn nodi bwriad i "adeiladu ar" y gronfa trwy roi £206.6m ychwanegol i gefnogi cynghorau sir am chwe mis cyntaf 2021-22.

Ond mae'n fwriad i'r arian hynny fynd at sawl peth, yn cynnwys prydau ysgol am ddim, gofal gymdeithasol oedolion, cynnal profion mewn cartrefi gofal a glanhau ysgolion

Wales Live, 22:35 nos Fawrth, BBC One Wales ac yna ar i-Player