Corff yn rhannu £5.5m yn ystod y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
bocsus bwydFfynhonnell y llun, BBC / Beagle Productions
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r elusen yn rhoi cymorth i grwpiau a chymunedau ledled Cymru

Mae corff sy'n cefnogi grwpiau a chymunedau lleol ledled Cymru wedi rhannu dros £5.5m er mwyn eu cynorthwyo drwy'r pandemig Covid-19, yn ôl adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau.

Mae maint y gefnogaeth argyfwng sy'n cael ei roi gan Sefydliad Cymunedol Cymru, dolen allanol i'r trydydd sector yng Nghymru'n cael ei ddatgelu yn adroddiad Ymdopi gyda Covid-19, dolen allanol.

Dywed yr elusen mai dyma'r "tro cyntaf iddo orfod gweithredu ar y fath raddfa er mwyn dod â chefnogaeth hanfodol i bobl o bob rhan o Gymru".

Lansiwyd Cronfa Gwytnwch Coronafeirws Cymru gydag £200,000 yn fuan ar ôl y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf.

Cynyddodd y gronfa i £1m mewn ychydig dros bythefnos "diolch i roddion hael gan fusnesau a rhoddwr lleol, ac i bartneriaeth wych gyda'r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol".

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Yr artistiaid a recordiodd fersiwn newydd o'r gân Dwylo Dros y Môr i godi arian ar ran y gronfa

Fe wnaeth y gronfa dderbyn cyfraniad hefyd oddi wrth yr artistiaid ddaeth ynghyd ar gyfer fersiwn newydd Dwylo Dros y Môr.

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng Mawrth 2020 a Rhagfyr 2020.

Dywedodd prif weithredwr y Sefydliad, Richard Williams: "Rydyn ni'n falch iawn o'r ffordd rydyn ni wedi ymateb i'r pandemig hwn, gan symud yn gyflym i gael grantiau i grwpiau ledled Cymru oedd yn addasu i gyfarfod ag anghenion gwahanol eu cymunedau yn wyneb Covid-19.

"Yn anffodus, mae'r pandemig yn dal yma a'r dyfodol yn ansicr, felly, fe fyddwn ni'n dal i gefnogi pobl ledled Cymru drwy'r cyfnod anodd hwn.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr adroddiad yn annog pobl eraill i chwarae eu rhan i wneud yn siŵr y bydd cymunedau mwyaf bregus Cymru'n yn dal i dderbyn yr help y maen nhw gymaint o'i angen."

Ymhlith y nifer o grwpiau i dderbyn grantiau cymorth mae yn ystod cyfnod y pandemig mae:

  • Canolfan Gwnsela yn Sir y Fflint, sy'n cefnogi pobl a theuluoedd bregus sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan hunan laddiad, hunan niwed ac iselder;

  • Cymdeithas Twristiaeth Harlech - gwirfoddolwyr sy'n danfon presgripsiynau, bwyd a nwyddau sylfaenol i drigolion sy'n wynebu pryderon ariannol a phryderon iechyd;

  • Cyngor Hil Cymru, er mwyn ddarparu gliniaduron i deuluoedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig sydd heb ddyfeisiau electronig i alluogi plant i ddysgu ar-lein;

  • Cymorth i Ferched Cymru, i'w galluogi i gynnig cymorth ar-lein a chymorth ychwanegol i fenywod yr effeithiwyd arnynt gan, ac sydd mewn mwy o berygl o ddioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Pynciau cysylltiedig