Cwest: Galw 'digynsail' ar wasanaeth 999 yn ffactor
- Cyhoeddwyd
Mae cwest yn achos dyn wnaeth ddisgwyl 16 awr am ambiwlans wedi clywed mai galw "digynsail" am wasanaeth 999 oedd y brif ffactor yn ei farwolaeth.
Bu farw Joseph Edge, taid 74 oed, ar 29 Rhagfyr 2019 yn ei gartref yn Llandegla yn Sir Ddinbych.
Dywedodd y Crwner Cynorthwyol, Elizabeth Dudley Jones, bod triniaeth clinigol wedi'i wrthod i Mr Edge ond y bu farw o achosion naturiol oherwydd sawl cyflwr parhaus ar y galon.
Daeth i'r canlyniad yma wedi i Dr Brian Rodgers, patholegydd y Swyddfa Gartref, ddweud y gallai Mr Edge fod wedi marw ar unrhyw bryd os yn mynd mewn i sioc cardio.
Ond nododd y patholegydd hefyd pe bai Mr Edge wedi derbyn triniaeth yn gynharach yna gallai hynny fod wedi newid y canlyniad - ond ni allai byth fod yn sicr.
Wrth edrych ar y sefyllfa roedd hi'n noson hynod o brysur i'r Gwasanaeth Ambiwlans. Dywedodd y crwner fod y gwasanaeth wedi ceisio cael ambiwlans i Mr Edge ond ei bod yn amhosibl oherwydd y pwysau "digynsail" ar eu gwasanaethau y diwrnod hwnnw.
'Ofidus ac yn flin'
Yn ystod y gwrandawiad yn Rhuthun, clywodd y cwest gan Carole Edge, gweddw Joseph Edge, lle disgrifiodd ef fel "cawr tyner".
Dywedodd Mrs Edge bod ei gŵr wedi bod yn blymar ac yn fecanic ceir ond ei fod wedi ymddeol yn gynnar wedi iddo gael trawiad ar y galon a strôc pan yn 48 oed.
Dechreuodd Mr Edge deimlo'n sâl adeg Y Nadolig yn 2019. Yn dilyn darlleniad pwysedd gwaed isel, fe wnaeth Mrs Edge ffonio 999.
Fe wnaeth yr alwad cyntaf am 13:15 ond oherwydd pwysau digynsail ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru ar y pryd, nid oedd y gwasanaeth yn medru gyrru parafeddygon draw.
Am 05:15 y bore wedyn, fe wnaeth Mrs Edge ddarganfod ei gŵr yn oer ac yn anymatebol.
"Rwy'n ofidus iawn ac yn ddig ynglŷn a'r hyn sydd wedi digwydd," meddai.
Mae Mrs Edge wedi rhoi datganiad i Heddlu Gogledd Cymru yn manylu ar y galwadau a wnaeth i'r Gwasanaeth Ambiwlans.
'Gallai fod wedi marw ar unrhyw adeg'
Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad bod calon Mr Edge wedi chwyddo a bod ei brif rydweli wedi'i lleihau "i bwynt pin oherwydd arteriosclerosis" - mewn geiriau eraill, cafodd eu blocio'n llwyr.
Mae cleifion â phroblemau tebyg ar y galon mewn perygl o farw'n sydyn.
Sylwodd Dr Brian Rodgers, patholegydd y Swyddfa Gartref, yn ei ddatganiad: "Gallai Joe fod wedi marw ar unrhyw adeg. Efallai gallai ymateb mwy sydyn gan y gwasanaeth ambiwlans wedi arwain at ganlyniad gwahanol ond ni allaf fod yn sicr."
Fe wnaeth Gill Pleming, Rheolwr Defnydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, hefyd roi tystiolaeth.
Clywodd y crwner sut mae gan alwadau ambiwlans 999 sydd wedi'u codio'n "Goch" darged amser ymateb o 8 munud ond nid oes amser penodol ar gyfer unrhyw gategori arall o alwadau.
Cafodd achos Mr Edge ei roi yng nghategori "Gwyrdd 3" ond fe wnaeth y triniwr galwadau gam-gategori'r brif gŵyn gan beidio blaenoriaethu 'bron a llewygu' fel prif symptom.
Byddai hynny wedi ei roi yng nghategori "Gwyrdd 2" a oedd yn golygu bod y triniwr wedi gofyn cyfres gwahanol o gwestiynau.
Dywedodd Ms Pleming wrth y gwrandawiad, hyn y oed be bai Mr Edge wedi'i gategoreiddio'n gywir, "byddai Joe wedi cael ei drin yr un peth gyda blaenoriaeth yn dal i gael ei roi i achosion coch ac ambr ond byddai wedi derbyn asesiad ffon clinigol".
Dywedodd na fyddai wedi gwneud dim gwahaniaeth i'r canlyniad. Dywedodd fod yr holl adnoddau'n cael eu dyrannu i ddigwyddiadau eraill neu mewn ysbytai gyda 41 o achosion brys yn cael eu trin am 13:27 y diwrnod hwnnw.
Am 17:42 adolygodd cilinigwr yr alwad ac ar ôl clywed am ddarlleniad pwysedd gwaed diweddaraf Mr Edge, cafodd ei alwad ei ail-flaenoriaethu i "Ambr 2" ond nid "Coch" gan nad oedd bygythiad uniongyrchol i'w fywyd ar yr adeg honno.
Fodd bynnag, nid oedd adnoddau ar gael o hyd gan fod hon yn noson brysur iawn gydag achosion a blaenoriaeth uwch yn cael eu prosesu.
Parhaodd galwadau lles y gwasanaeth ambiwlans tan 03:33 ond nid oedd adnoddau ar gael o hyd nes bod parafeddyg mewn cerbyd ymateb cyflym yn bresennol am 05:50.
Daeth y crwner i'r casgliad fod Mr Edge wedi cael gwrthod triniaeth clinigol, ond ei fod wedi marw o achosion naturiol oherwydd nifer o gyflyrau ar ei galon.