'Blinder Zoom ar fai am ostyngiad yn niferoedd y sgowtiaid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
sgowt day owt

Dywed arweinwyr y sgowtiaid mai "blinder Zoom" sydd ar fai yn rhannol am eu gostyngiad mwyaf yn eu niferoedd ers yr Ail Ryfel Byd.

Ledled y DU, cymerodd tua 100,000 yn llai o bobl ifanc ran yn y mudiad Sgowtiaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - gostyngiad o tua 25%.

Yng Nghymru, mae nifer y bobl ifanc dan sylw wedi gostwng 29.9%, tra bod oedolion sy'n gwirfoddoli hefyd wedi gostwng 10%.

Yn ystod cyfnodau clo 2020 a dechrau 2021, roedd y rhan fwyaf o weithgareddau'r Sgowtiaid wedi'u cyfyngu i lwyfannau digidol.

Beth Gloster

Wrth egluro'r gostyngiad yn y niferoedd, dywedodd Beth Gloster, comisiynydd ardal y Sgowtiaid ar gyfer Eryri ac Ynys Môn: "Llawer ohono fyddai... blinder Zoom yn gyffredinol.

"Maen nhw wedi bod yn gweithio adref, maen nhw wedi bod yn dysgu adref - y peth olaf maen nhw isio ydy mynd ymlaen a chael sesiwn Zoom am awr.

"Mae'n dal i fod yn un o'r sefyllfaoedd hynny lle rydych chi'n sownd o flaen sgrin, a dydy o ddim yn ein cael ni allan i'r gymuned; ddim yn ein cael ni allan i'r byd mawr eang i gael ychydig o awyr iach ac ymarfer corff."

Ers codi cyfyngiadau yn gynharach eleni, dywedodd fod y Sgowtiaid bellach yn gallu gwneud gweithgareddau yn yr awyr agored, a bod arwyddion bod pobl eisiau cymryd rhan unwaith eto.

Ond ychwanegodd: "Y mater mwyaf sydd ganddon ni ydy nad oes ganddon ni'r oedolion i gefnogi hynny.

"Dyma lle dwi'n meddwl bod angen i ni fynd allan yna i'r gymuned a mynd 'da ni'n gwneud rhywbeth da i'r gymuned, 'da ni'n gwneud daioni i'n pobl ifanc a 'da ni'n gwneud lles i ni oedolion - dewch i ymuno ni."

Dywedodd Ms Gloster, er bod niferoedd y bobl ifanc wedi gostwng bron i 30% ledled Cymru, yng ngogledd orllewin Cymru roedd y ffigwr yn 46%, tra gostyngodd nifer yr oedolion sy'n gwirfoddoli 17%.

Mae hi'n credu mai dibyniaeth ar lwyfannau fel Zoom sy'n gyfrifol am hynny, a phobl mewn rhai ardaloedd sy'n cael trafferth gyda chyflymder band eang arafach.

'Dim cyfle os fydd clybiau'n cau'

Dywedodd sgowtiaid ym Methesda eu bod yn poeni am y gostyngiad yn y niferoedd.

Dywedodd Cai, 15: "Bydd llawer o bobl ifanc yn troi at y pethau hawdd fel mynd ar y cyfrifiadur, neu gemau cyfrifiadurol, a pheidio â bod yn ymwybodol o'r cyfleoedd maen nhw'n colli allan arnyn nhw."

Dywedodd ei efaill, Jac, fod y rhai a oedd wedi gadael y sgowtiaid "yn sicr yn colli allan ar lawer o sgiliau bywyd sydd mor ddefnyddiol yn y dyfodol, hyd yn oed os ydy hynna mor sylfaenol â chlymu cwlwm neu gynnau tân".

Ychwanegodd Emma, 17: "Mae'n poeni fi bod gostyngiad yn y niferoedd, oherwydd ella na fydd y cenedlaethau iau yn cael llawer o gyfle i ymuno â'r sgowtiaid os bydd cwymp enfawr gan y bydd yn rhaid i grwpiau gau."

Pynciau cysylltiedig