Eisteddfod T: Enillwyr cystadleuaeth creu podcast neu raglen radio
- Cyhoeddwyd
Fel rhan o ddigwyddiadau Eisteddfod T eleni fe gafodd pobl ifanc Cymru'r cyfle i arddangos eu gallu cynhyrchu, gyda chystadleuaeth arbennig 'Creu Podcast neu Raglen Radio o dan 19 oed'.
Y cynhyrchydd radio Aled Jones oedd y beirniad, ac roedd y cystadleuwyr wedi creu dipyn o argraff arno.
Dyma yr oedd gan Aled i'w ddweud am y rhai a orffennodd yn y tri uchaf:
1af - 'Rhaglen Radio Plasmawr': Iestyn Gwyn Jones - Ysgol Gyfun Plasmawr
Mae'r rhaglen radio bywiog yma yn swnio'n broffesiynol iawn a nes i fwynhau'r gerddoriaeth, stings y rhaglen a'r sgwrs ddifyr gyda Sywel Nyw, sef Lewis o Yr Eira.
Mae'r cyflwynwyr yn naturiol yn y steil o holi ac mae'r caneuon yn torri'r rhaglen i fyny i wneud rhaglen sy'n fywiog ac yn llawn egni.
Byddai'r cyflwynwyr a'r rhaglen radio yma ddim allan o'i le yn cael ei darlledu ar unrhyw orsaf radio.
2ail - 'Radio Bro Pedr' yn cyflwyno: Dosbarth 6 Grannell - Ysgol Bro Pedr
Nes i wir fwynhau'r rhaglen radio yma gan ddisgyblion dosbarth 6 Ysgol Bro Pedr.
Mae'r rhaglen yn cyflwyno a throsglwyddo gwybodaeth bwysig am gamwybodaeth ar y We Fyd Eang.
Mae'r gwesteion sydd wedi eu creu gan y disgyblion yn ddoniol ac yn gwneud i'r rhaglen yma weithio mewn ffordd hollol unigryw.
Mae mwynhad y disgyblion yn dod drosodd yn y rhaglen radio yma sydd o safon uchel iawn.
3ydd - Podlediad 'Bwyd Y Byd' gan Max, Manon ac Alys - Ysgol Treganna
Mae'r podlediad yma yn hawdd i wrando arno ac yn gwneud defnydd da o gerddoriaeth i gyflwyno'r podlediad.
Mae Max, Manon ac Alys yn gyflwynwyr cynnes iawn ac yn gwneud i'r gwesteion ymlacio a siarad yn naturiol.
Defnydd da o eitemau diddorol yn y podlediad fel syniadau bwyd yr wythnos a chyfweld ag athrawes. Mae o safon uchel iawn.
Hefyd o ddiddordeb: