Tafarn yng Ngheredigion wedi derbyn hysbysiad cau
- Cyhoeddwyd
![Ffostrasol Arms](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/209D/production/_118794380_ffostrasolarms.jpg)
Roedd y safle eisoes wedi derbyn hysbysiad cau am dorri rheolau coronafeirws ym mis Hydref 2020
Mae tafarn yng Ngheredigion wedi cael dirwy o £2,000 ac wedi derbyn Rhybudd Cau Mangre ar ôl methu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwella Mangre a thorri rheoliadau coronafeirws.
Fe wnaeth Tafarn Y Ffostrasol Arms ger Llandysul dderbyn y rhybudd ddydd Llun yn dilyn ymweliad gan swyddogion o Dîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Ceredigion.
Tra oeddent ar y safle daeth y swyddogion ar draws rhagor o achosion o ddiffyg cydymffurfio.
Cafodd rheolwr y dafarn ei hysbysu o'r gwelliannau a oedd yn ofynnol a dywed wrtho y byddai Hysbysiad Cau Mangre a Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael eu rhoi pe na fyddai'r dafarn yn bodloni'r gofynion.
Pan aeth y swyddogion i ymweld â'r adeilad eto ddydd Mercher 26 Mai, roedd ocsiwn gan gwmni Fred Davies & Co yn digwydd yno ac nid oedd tystiolaeth bod mesurau rhesymol ar waith i leihau'r risg o ledaenu coronafeirws ar y safle.
Gyda chymorth Heddlu Dyfed Powys, fe wnaeth y tîm ddychwelyd i'r dafarn ddydd Gwener 28 Mai i gyhoeddi Rhybudd Cau Mangre a Rhybudd Cost Benodedig.
Bydd y Tafarn Y Ffostrasol Arms yn parhau ar gau am 28 diwrnod, neu nes y gallant ddangos eu bod wedi gwneud y gwelliannau angenrheidiol i leihau'r risg o ledaenu coronafeirws ar eu safle.
Roedd y safle eisoes wedi derbyn hysbysiad cau am dorri rheolau coronafeirws ym mis Hydref 2020.
Fe gafodd cwmni ocsiwn Fred Davies & Co hefyd rhybudd wedi'r digwyddiad yn y dafarn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2020